Cengiz Dervis a Samira Mohamed Ali yn y ffilm 'By Any Name'
Mae prif weithredwr cwmni ffilm annibynnol yn Abertawe wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “llawn cyffro” ar drothwy dangosiad o’r ffilm ‘By Any Name’ yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin nos Fawrth.
Bydd y ffilm, sy’n addasiad o nofel yr awdures leol Katherine John, yn cael ei dangos yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli ar ail noson yr ŵyl.
Mae’r nofel eisoes wedi ymddangos ar frig rhestr y gwerthwyr gorau mewn pump o wledydd.
Euros Jones-Evans, prif weithredwr cwmni Tanabi, yw cyfarwyddwr y ffilm a gafodd ei ffilmio yn Abertawe a’r cyffiniau.
Mae’r ffilm bellach yn cael ei marchnata gan gwmni Marie Adler yn Hollywood.
Y ffilm
Mae ‘By Any Name’ yn serennu’r actores o Gastell-nedd Samira Mohamed Ali, sy’n chwarae rhan y prif gymeriad benywaidd Dr Elizabeth Santer.
Mae Samira eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth am ei pherfformiad, gan ddod i’r brig yng nghategori’r Actores Orau yng ngwobrau Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Gogledd Cymru ym mis Chwefror.
Cengiz Dervis, sy’n chwarae rhan y prif gymeriad gwrywaidd John West.
Enillodd y ffilm wobr y Ffilm Hir Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Gogledd Cymru hefyd.
Caiff John West ei ddarganfod yn gwaedu wrth iddo redeg drwy Fannau Brycheiniog, ac mae’n ymddangos ei fod yn ffoi rhag yr heddlu a’r lluoedd arfog.
Ond ai terfysgwr go iawn ydyw, neu a yw’n ddarn mewn gêm o wyddbwyll gwleidyddol?
Prosiect annibynnol
Cafodd ‘By Any Name’ ei chreu fel rhan o brosiect annibynnol gan ddefnyddio lleoliadau yn Abertawe a Bannau Brycheiniog.
Cafodd ei ffilmio dros gyfnod o 16 niwrnod, ac roedd gan y gymuned leol ran bwysig i’w chwarae yn y broses ffilmio.
Dywedodd Euros Jones-Evans: “Be o’n i’n trio’i greu oedd prosiect, er fod o’n prosiect bach ac yn annibynnol, heb gymorth gan neb arall. Popeth dan ni wedi gwneud, ’dan ni wedi’i wneud o’n hunain.
“Mae’n bwysig iawn rhoi brand at ei gilydd sy’n gallu cael ei weld ar y llwyfan rhyngwladol.
“O ran y sgrinio, byd tua 150-200 o bobol yn dod a gobeithio bo nhw’n gallu mwynhau’r ffilm. Bydd ’na rai pethau hwyrach na fyddan nhw’n rhy hoff ohonyn nhw ond ar y cyfan, mae’n ffilm y bydd pobol yn ei mwynhau.”
Y dyfodol
Mae gan gwmni Tanabi bump o brosiectau y byddan nhw’n gweithio arnyn nhw yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys prosiect dwyieithog tebyg i ‘Y Gwyll/Hinterland’, a phrosiect Cymraeg.
Ychwanegodd Euros Jones-Evans: “Mae’r pelen eira ’di dechra’. Mae gynnon ni bump ffilm arall di trefnu dros y ddwy flynedd nesa.
“Bydd y rheiny eto’n cael eu ffilmio yn yr ardal yma o gwmpas Abertawe – bydd ’na un falle yng ngogledd Cymru hefyd – so o ran y ‘slate’ o ffilmiau, dan ni’n gweld y momentwm yn dechre a ’dan ni’n delio dipyn efo India ar y funud i ddenu prosiectau.
“Aethon ni draw â DVDs miwsig ryw ddwy neu dair blynedd yn ôl i ffilm eitha’ mawr yn Bollywood. Mae Samira Mohamed Ali yn delio efo’r ochr yna.
“Dan ni’n edrych i ddod â’r prosiect cyntaf hwyrach ym mis Medi neu Hydref, a dod â ffilm eitha’ mawr yma.
“Dan ni’n keen iawn i ddatblygu sgiliau ac i’r tîm i droi pethau rownd yn eitha’ sydyn. Dan ni’n teimlo bo ni’n gallu bod yn wahanol i bobol eraill.”
Bydd ‘By Any Name’, sydd wedi’i henwebu am wobr yng nghategori’r Ffilm Nodwedd Orau, yn cael ei dangos am 7.30pm nos Fawrth, ar ôl dangosiad o ffilm arall gan Tanabi, ‘Locked Up’ (6pm) sydd hefyd yn serennu Samira Mohamed Ali ac sydd wedi’i henwebu ar gyfer gwobr yng nghategori’r Ffilm Fer Orau.
Gallwch ddarllen rhagor yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
Stori: Alun Rhys Chivers