Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn ar ôl i’w gorff gael ei ddarganfod mewn tŷ yng Nglan yr Afon, Caerdydd.
Cafwyd hyd i’r corff fore dydd Mercher mewn eiddo yn yr ardal, sy’n agos i ganol y ddinas.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau â’u hymholiadau i geisio cadarnhau amgylchiadau ei farwolaeth.
Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.