(Llun: Plaid Cymru)
Dydy Carwyn Jones ddim wedi sicrhau digon o bleidleisiau eto i barhau fel Prif Weinidog Cymru.

Cafodd y cyfarfod yn y siambr ei ohirio yn dilyn y bleidlais ac ar ôl toriad byr, daeth cyhoeddiad na fyddai enwebiadau’n ail-agor heddiw. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael gwybod maes o law pryd fydd etholiad o’r newydd.

Mewn pleidlais yn y Senedd, gorffennodd Jones ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn gyfartal.

Cafodd Leanne Wood ei chefnogi gan y Ceidwadwyr a UKIP, ond pleidleisiodd Kirsty Williams, yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y Cynulliad, dros Carwyn Jones.

Mae’r cyfarfod i ddewis y Prif Weinidog wedi cael ei ohirio am y tro gan Lywydd newydd y Cynulliad, Elin Jones a gafodd ei hethol y bore ma.

Bydd Carwyn Jones yn parhau fel Prif Weinidog am y tro nes bod modd dod i gytundeb.

Os na fydd cytundeb o fewn 28 diwrnod ar ôl yr etholiadau, fe allai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns alw etholiadau o’r newydd ar gyfer y Cynulliad. Mae 22 diwrnod yn weddill o’r cyfnod hwnnw ar hyn o bryd.

‘Gwehilion’

Kirsty Williams oedd yr Aelod Cynulliad olaf i bleidleisio ac eithrio Leanne Wood, ac mae hi wedi amddiffyn ei dewis.

Mewn datganiad, dywedodd: “Ches i mo fy ail-ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi clymblaid o wehilion wedi’i ffurfio o Aelodau Cynulliad UKIP sy’n methu hyd yn oed cytuno â’i gilydd ar hyn o bryd.

“Nid dyna fy ngwleidyddiaeth i, a dydy e ddim yn rhywbeth y byddwn i fyth yn ei ystyried.

“Rwy’n siomedig fod Plaid yn credu bod hwn yn opsiwn dichonadwy.”

Ychwanegodd fod gan Lafur “fandad” i lywodraethu gan fod ganddyn nhw’r nifer fwyaf o Aelodau Cynulliad.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd yr Aelod Cynulliad Llafur, Vaughan Gething: “Cytundeb anghredadwy rhwng Plaid Cymru, y Torïaid Cymreig a UKIP ar waith yn y #Senedd heddiw.”

Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad Llafur Alun Davies: “Felly mae Plaid yn dod i gytundeb gyda’r Torïaid ac UKIP i ddwyn yr etholiad. Am glymblaid o wehilion. Ac am ffordd i ddechrau’r Cynulliad newydd.”

Wrth ymateb i’r bleidlais, dywedodd Leighton Andrews, a gollodd ei sedd yn y Rhondda i Leanne Wood fod “yn well gan Blaid ddod i gytundeb gyda’r Torïaid ac UKIP nag #achubeindur”.

Mewn datganiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod “awydd am fath newydd o wleidyddiaeth gydweithredol yng Nghymru”, gan ychwanegu y byddai’n “croesawu’r cyfle” i drafod y sefyllfa ymhellach yn dilyn y bleidlais.

Datganiad Plaid Cymru

Yn dilyn y bleidlais, mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw “wedi dilyn y drefn Seneddol arferol” drwy enwebu eu harweinydd Leanne Wood ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru.

Mae Llafur wedi cyhuddo Plaid Cymru o geisio dwyn pwysau ar y pleidiau eraill i’w cefnogi a hynny, yn ôl rhai ar wefannau cymdeithasol, yn groes i’r datganiad na fydden nhw’n cydweithio â’r Ceidwadwyr.

Yn y datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Ar Fai 5ed, dewisodd Cymru i beidio ag ethol un blaid i lywodraethu Cymru gyda mwyafrif.

“Fel yr arfer, cafodd y blaid fwyaf y cyfle i gyrraedd cytundeb ar ffurfio llywodraeth a all arwain Cymru gyda chefnogaeth y mwyafrif o aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Gwnaethant y penderfyniad i beidio ffafrio’r opsiwn hwnnw, ac nid oeddent yn barod i roi mwy o amser i’r broses negodi.

“O ganlyniad, dilynodd grwp Plaid Cymru y drefn Seneddol arferol gan enwebu Leanne Wood yn Brif Weinidog.

“Cafodd Carwyn Jones ei hysbysu o’r penderfyniad ddoe. Ers hynny, a hyd y gwyddai Plaid Cymru, nid oes unrhyw drafodaethau, cytundebau na bargeinion ffurfiol wedi eu holrhain rhwng unrhyw bleidiau.”

Y cam nesaf

Ychwanegodd y llefarydd: “Prynhawn heddiw, methodd y Cynulliad â chytuno ar bwy ddylai fod yn Brif Weinidog a ffurfio’r llywodraeth nesaf.

“Cyfrifoldeb y pleidiau nawr yw i drafod y mater hwn ymhellach er mwyn ceisio sicrhau’r canlyniad gorau posib i Gymru.”