David Jones
Fe fydd cyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones yn arwain yr ymgyrch yng Nghymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Orllewin Clwyd bod yna “awch” yng Nghymru dros adael yr UE, gan honni bod y wlad yn fwy awyddus i adael yr Undeb na rhannau eraill o’r DU.

Mae’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin.

Ychwanegodd David Jones y gallai Cymru a gweddill y DU “edrych ymlaen at ddyfodol mwy llewyrchus y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”

Geraint Talfan Davies, yw cadeirydd y grŵp sydd o blaid aros yn rhan o’r UE yng Nghymru,  Wales Stronger in Europe.