Old Bailey yn Llundain Llun: Wicipedia
Mae disgwyl i gyn-Brif-arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru sefyll ei brawf yn yr Hydref ar gyhuddiadau yn ymwneud a throseddau rhyw hanesyddol yn erbyn bechgyn.

Mae Gordon Anglesea, 78, o Hen Golwyn wedi’i gyhuddo o nifer o droseddau rhyw gan gynnwys ymosod yn rhywiol.

Roedd disgwyl i’r achos gael ei gynnal yn Llys y Goron yr Wyddgrug ond cafodd ei symud i’r Old Bailey yn dilyn gwrandawiad gyda’r barnwr Mrs Ustus McGowan.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud a honiadau o gam-drin bechgyn yn y 1970au a’r 1980au.

Roedd Anglesea wedi ymddeol o Heddlu’r Gogledd yn 1991.

Cafodd ei arestio ym mis Rhagfyr 2013 gan swyddogion o Ymgyrch Pallial – ymchwiliad annibynnol i honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol yn y system gofal yng ngogledd Cymru.

Mae disgwyl i’r achos yn yr Old Bailey barhau am chwe wythnos.

Nid oedd y diffynnydd, sydd ar fechnïaeth, yn y gwrandawiad heddiw.

Fe fydd gwrandawiad pellach ar 23 Mai.