Andrew RT Davies
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi prynhawn ma eu bod wedi rhoi eu” cefnogaeth lawn” i Andrew RT Davies ac y bydd yn aros fel arweinydd y blaid.

Bu Aelodau Cynulliad y Ceidwadwyr yn cyfarfod i drafod y sefyllfa heddiw.

Roedd amheuon am ddyfodol arweinyddiaeth Andrew RT Davies am i’w blaid fethu â sicrhau dim un o’u seddi targed a cholli tair sedd ranbarthol.

Yn dilyn canlyniadau’r etholiad, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig 11 sedd sy’n golygu nad nhw yw’r brif wrthblaid bellach.

Ond, mae cadarnhad wedi dod i law y bydd Andrew RT Davies yn parhau fel arweinydd ac, yn ôl y llefarydd, byddan nhw’n troi eu golygon at ddechrau’r tymor newydd yn y Cynulliad gyda’r pwyslais ar ddiogelu’r diwydiant dur.