Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn 47 oed wedi mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dynes, 75.
Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn digwyddiad yn Ffordd Nelson, Ystrad Mynach ar 3 Mai.
Cafodd ei gyhuddo o lofruddio Iris Owens ar 6 Mai.
Fe ymddangosodd y dyn gerbron Ynadon Casnewydd fore Sadwrn ac yna gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa.