Nathan Gill, un o ACau cynta' UKIP (llun o'i wefan)
Mae UKIP wedi creu hanes yng Nghymru trwy ennill eu dwy sedd gynta’ yn y Cynulliad, yn rhanbarth Gogledd Cymru, ac wedyn dwy arall yn Nwyrain De Cymru.

Er mai pedwerydd oedden nhw yn y bleidlais yn y Gogledd, roedd eu methiant i ennill seddi etholaeth yn sicrhau mai nhw gafodd fwya’ o seddi rhanbarth.

Un o’r ddau AC newydd yn y Gogledd yw Nathan Gill, arweinydd y blaid yng Nghymru, ac mae’r cyn AS Ceidwadol o Loegr, Mark Reckless, wedi cael sedd yn Nwyrain De Cymru.

Fe ddywedodd fod y fuddugoliaeth yn gefnogaeth i’w waith yn arweinydd ac fe addawodd na fyddai aelodau UKIP yn mynd i’r Cynulliad er mwyn “creu helynt a dim arall”.

Sut y gwnaeth y pleidiau

  • Llafur Cymru oedd ar y blaen yn y bleidlais ranbarthol yn y Gogledd, gyda 57,528 o bleidleisiau. Ond gan eu bod wedi cadw eu holl seddi yn y Gogledd-ddwyrain, doedd ganddyn nhw ddim gobaith o ennill seddi rhanbarthol hefyd.
  • Plaid Cymru oedd yn ail, gyda 47,701 a hynny’n ddigon i gadw sedd Llyr Huws Gruffydd.
  • Fe ddaeth y Ceidwadwyr yn drydydd gyda 45,468 a hynny’n anfon Mark Isherwood yn ôl i Gaerdydd.
  • Dim ond 9345 a gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol, a hynny’n llai na’r grŵp i ddiddymu’r Cynulliad.

UKIP yn sicr o gael rhagor

Cyn canlyniad Gogledd Cymru, roedd Nathan Gill wedi proffwydo y byddai UKIP yn cael chwech sedd, gydag un ym mhob rhanbarth a dwy yng Nghanol De Cymru.

Yna, fe enillon nhw ddwy arall yn Nwyrain De Cymru, trwy Mark Reckless a David Rowlands.