Bydd pobol Cymru’n pleidleisio heddiw i ddewis y 60 Aelod Cynulliad fydd yn gwasanaethu dros y pum mlynedd nesa.
Roedd arolwg barn a gyhoeddwyd neithiwr yn awgrymu y bydd Llafur yn parhau i fod y blaid fwyaf yn y Cynulliad ond y bydd yn colli rhai o’i seddau.
Bydd trigolion Cymry hefyd yn pleidleisio i ddewis pedwar o Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd ar gyfer y pedwar llu yng Nghymru am yr eilwaith.
Mae’r blychau pleidleisio ar agor o 7:00 y bore tan 10:00 yr hwyr.
Yn ogystal, bydd trigolion yn etholaeth Ogwr yn cymryd rhan mewn isetholiad i ddewis Aelod Seneddol newydd oherwydd bod Huw Irranca-Davies wedi rhoi’r gorau i’w swydd ar ôl 14 mlynedd i sefyll yn etholiad y Cynulliad.
Yr Alban
Mae trigolion yr Alban hefyd wedi dechrau ethol y llwyth nesaf o aelodau ar gyfer Senedd yr Alban, Holyrood.
Daw’r etholiad flwyddyn ar ôl i’r SNP ennill 56 o 59 sedd yr Alban yn yr etholiad cyffredinol ac nid oes unrhyw arwydd bod momentwm y blaid yn arafu.
Lloegr
Bydd 2,700 o seddi yn cael eu hymladd mewn 124 o gynghorau yn Lloegr, a bydd yr holl Gomisiynwyr yr Heddlu yn cael eu hethol hefyd.
Bydd Llundain, Lerpwl, Salford a Bryste hefyd yn cynnal etholiadau i ddewis maer newydd ar gyfer y dinasoedd hynny.
Gogledd Iwerddon
Heddiw hefyd, bydd pobl Gogledd Iwerddon yn penderfynu ar aelodau’r Senedd yn Stormont ble mae 108 o seddi ar gael ar draws 18 o etholaethau.
Dilyn y canlyniadau
Heno ar S4C, fe fydd tîm Etholiad 2016 yn dilyn y canlyniadau o 10.00 y nos hyd oriau mân bore Gwener nes eu bod i gyd wedi cael eu cyhoeddi.
Yn arwain y tîm bydd y cyflwynydd Dewi Llwyd, gyda Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, y gohebwyr Bethan Lewis ac Arwyn Jones, a gohebwyr a sylwebwyr ar hyd a lled y wlad.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu’r un pryd ar BBC Radio Cymru.