Fe fydd record Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau o dan y chwyddwydr ar y diwrnod olaf o ymgyrchu ar gyfer etholiadau’r Cynulliad heddiw.

Mae Llafur yn honni y bu gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus o dan eu harweiniad ers 2011.

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn y de ddydd Mercher, wrth i arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies gwblhau taith 36 awr o gwmpas Cymru.

Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams yn aros yn y canolbarth, gan ganolbwyntio ar Sir Drefaldwyn, tra bydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn ymgyrchu yng nghymoedd y de.

Roedd arweinydd Prydeinig UKIP, Nigel Farage yng Nghasnewydd nos Fawrth ar gyfer cyfarfod cyhoeddus, wrth iddyn nhw geisio am eu seddi cyntaf yn y Cynulliad.

Mae polau’n awgrymu y gallai’r blaid gael pump o aelodau ar ddiwedd yr etholiadau.

Yn y cyfamser, mae arweinydd y Blaid Werdd Brydeinig, Natalie Bennett yn honni y gallai’r blaid ennill tair sedd.