Llun yr heddlu
Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn 47 oed ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn eiddo yn Ystrad Mynach neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw gan y Gwasanaeth Ambiwlans i roi cymorth iddyn nhw mewn tŷ yn Heol Nelson, Ystrad Mynach am 5.45yh nos Fawrth, 3 Mai.

Ar ôl cyrraedd y safle cafwyd hyd i gorff dynes ac mae ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Cafodd dyn 47 oed ei arestio ar y safle ac ar hyn o bryn mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty am fân anafiadau.

Dywedodd yr heddlu fod teulu’r ddynes fu farw yn derbyn cefnogaeth arbennig, ond dydyn nhw heb ryddhau ei henw hi eto.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gwent drwy ffonio 101 gan nodi’r cyfeirnod 363.