Mae Suzy Davies yn credu y bydd pleidlais gryf yn erbyn Llafur yn yr etholiad eleni - "efallai am y tro cyntaf"
Mae Suzy Davies wedi dweud bod penderfyniad Plaid Cymru i ddiystyru gweithio â’r Ceidwadwyr ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn “sarhaus” i bleidleiswyr Cymru.
Dywedodd ymgeiswyr rhif un y Torïaid yn rhanbarth Gorllewin De Cymru ei bod hi’n hen bryd ddod â’r llywodraeth Lafur presennol ym Mae Caerdydd i ben ar 5 Mai.
Ond mae hi wedi cyhuddo’r cenedlaetholwyr o fod yn rhy fyrbwyll wrth ddweud na fyddan nhw’n clymbleidio â’i phlaid hi cyn gweld dros bwy fydd y cyhoedd wedi pleidleisio.
“Lle ‘dyn ni wedi gweld diffyg yw gyda’r economi – heb economi cryf d’yn ni ddim yn cael gwasanaethau cyhoeddus cryf chwaith,” meddai Suzy Davies wrth drafod gweledigaeth ei phlaid hi.
Yn ôl Suzy Davies, iechyd yw’r “prif bwnc trafod” ar y stepen ddrws wrth i’r ymgeiswyr geisio perswadio’r etholwyr i bleidleisio drostyn nhw ymhen deuddydd.
Ond fe gyfaddefodd fod trafferthion i’r llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, gan gynnwys yr argyfwng dur a streic meddygon iau yn Lloegr, wedi niweidio ymdrechion y blaid yng Nghymru rywfaint.