Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru Llun: Y Blaid Lafur
Deuddydd cyn etholiadau’r Cynulliad, mae Carwyn Jones wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i grŵp o reolwyr Tata er mwyn eu helpu i wneud cynnig i brynu’r busnes.
Mae Prif Weinidog Cymru yn y gwaith dur ym Mhort Talbot heddiw i siarad â gweithwyr a’r undebau llafur oriau cyn y dyddiad cau dros ddangos diddordeb mewn prynu asedau’r cwmni yn y DU.
Mewn erthygl yn yr Huffington Post, dywedodd fod y gefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth yn galluogi’r rheolwyr i gael cyngor arbenigol, cymorth technegol a thalu cyflogau’r tîm wrth i’r broses gwerthu fynd rhagddo.
Ond dydy Llafur Cymru heb gadarnhau wrth golwg360 eto faint yn union yw swm y gefnogaeth ariannol hon.
Mae Llywodraethau y DU a Chymru eisoes wedi cadarnhau y bydd yn rhoi cefnogaeth ariannol i unrhyw brynwr fydd yn prynu’r busnes.
Ar hyn o bryd, cwmni Liberty House yw’r unig gwmni i gadarnhau ei fod yn bwriadu cyflwyno llythyr ffurfiol heddiw fel cynnig i brynu asedau dur Tata yn y DU, sy’n cynnwys pedwar safle a miloedd o swyddi yng Nghymru.
Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Carwyn Jones, y byddai ei Lywodraeth yn “ystyried” cynigion eraill hefyd.
Amddiffyn record y Llywodraeth
Gydag etholiadau’r Cynulliad yn cael eu cynnal ddydd Iau, achubodd ar y cyfle i amddiffyn record ei Lywodraeth yn ystod y tymor diwethaf ym maes busnes.
Dywedodd fod y Llywodraeth wedi gwneud Cymru’n rhywle “ar gyfer y byd busnes”, gan bwysleisio ei bod yn “llywodraeth sy’n cefnogi busnesau”.
“Edrychwch ar le roeddem ni yn 2011, yn cael trafferth dod allan o ddirwasgiad ac edrychwch ar le rydym heddiw – ffigurau cyflogaeth uchaf erioed; diweithdra yn is nag yn yr Alban a Llundain,” meddai.
“Ond dwi methu helpu â theimlo y gallai cymaint o’r seiliau cryf hynny fynd os na allwn achub ein diwydiant dur.”
Croeso i’r cyhoeddiad
Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd rheolwyr Tata yn cael cymorth i geisio prynu’r safle, gan ddweud mai cynllun o’r fath yw’r gobaith gorau i ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.
Rwy’n gobeithio y daw pob plaid wleidyddol y tu ôl i’r cais hwn yn awr wrth i ni frwydro am ddyfodol y diwydiant craidd hanfodol hwn, a brwydro dros swyddi Cymreig,” meddai llefarydd cyllid y blaid, Adam Price.