Fel rhan o bolisi baneri’r Eurovision, mae wedi dod i’r amlwg na fydd hawl chwifio baner Cymru yn ystod cystadleuaeth yr Eurovision sy’n cael ei chynnal yn Sweden y mis hwn.

Ymysg y baneri eraill sydd wedi’u gwahardd, mae baneri’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), Palestina a Gwlad y Basg ac, yn ôl y trefnwyr, fe gawsant eu henwi a’u cyhoeddi mewn camgymeriad.

Yn ôl yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd, EBU, bwriad y polisi yw sicrhau bod y gystadleuaeth yn rhydd o “ddatganiadau gwleidyddol.”

O ganlyniad, ni fydd modd chwifio baner Cymru i gefnogi un o’r ddeuawd o Ruthun, Joe Woolford, sy’n cystadlu gyda Jake Shakeshaft ar ran y Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth.

‘Gwleidyddol’

Dywedodd llefarydd ar ran yr EBU mai eu bwriad yw sicrhau bod Eurovision “yn rhydd rhag datganiadau gwleidyddol, negeseuon masnachol heb eu hawdurdodi a negeseuon ymosodol, mewn perthynas â rheolau’r gystadleuaeth y mae’r 42 o ddarlledwyr sy’n cymryd rhan wedi cytuno arnyn nhw.”

Er hyn, ychwanegodd y llefarydd “nad yw’r polisi baneri ddim wedi’i anelu yn erbyn tiriogaethau neu sefydliadau penodol, ac yn sicr ddim yn cymharu nhw â’i gilydd, ond y bwriad yn unig yw sicrhau fod y darllediad yn rhydd o’r negeseuon sydd wedi’u crybwyll.”

‘Gwarth’

Un sydd wedi beirniadu penderfyniad yr Eurovision yw Peter Black AC, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer De a Gorllewin Cymru.

“Mae’n siomedig fod baner Cymru wedi’i wahardd o’r Eurovision ac mae ei roi gyda baneri brawychwyr fel y Wladwriaeth Islamaidd yn warthus.

“Mae un o ymgeiswyr y DU eleni o Ruthun, Joe Woolford, a dylai cefnogwyr allu dathlu hyn gyda baner Cymru.”

Er hyn, dywedodd ei fod yn croesawu penderfyniad yr Eurovision i ganiatáu i faneri enfys LGBT, sy’n cynrychioli pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, gael eu chwifio.

Rhestr o’r gwaharddiadau

  • Baneri nad sy’n faneri swyddogol y 42 gwlad sy’n cymryd rhan
  • Baneri lleol, rhanbarthol neu daleithiol
  • Baneri gyda negeseuon masnachol
  • Baneri sy’n cynnwys neu’n cynrychioli neges mae’r trefnwyr yn ystyried o natur wleidyddol neu grefyddol
  • Baneri sy’n cynnwys negeseuon neu luniau mae’r trefnwyr yn eu hystyried yn ymosodol, gwahaniaethol neu’n anaddas i’r cyhoedd
  • Baneri sy’n cynnwys datganiadau o iaith arall heblaw am Saesneg neu iaith y wlad sy’n ei chynnal
  • Baneri neu wrthrychau fel selfie sticks a allai rwystro gwaith y tîm cynhyrchu, darlledu neu ddeiliaid tocynnau.