Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i ddamwain angheuol ger Yr Wyddgrug.

Dim ond un car Volkswagen Golf du oedd yn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A541 brynhawn ddoe. Fe gafodd un person ei ladd yn y digwyddiad.

Fe gafodd swyddogion yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu galu toc wedi 2.3oyp.

Fe gafodd dau o bobol eu cludo i Ysbyty Stoke yn diodde’ o anafiadau difrifol, ac mae unigolyn arall wedi’i gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam gydag anafiadau llai difrifol.

Fe gafodd y ffordd ei chau am beth amser wedi’r digwyddiad, gyda cheir yn cael eu gwyro trwy bentrefi Licswm ac Afon Wen.