(Llun: y Gwasanaeth Tân)
Mae amheuon fod tân mewn ysgol yng Nghwmbrân neithiwr wedi cael ei gychwyn yn fwriadol.
Fe fu diffoddwyr tân yn ymladd y tân yn Ysgol Gynradd a Babanod Dewi Sant am tuag awr.
Cafodd ystafell ddosbarth ei difrodi ac mae ymchwiliad ar y gweill i achos o losgi bwriadol.
“Penderfynwyd bod y tân yn yr ysgol wedi ei achosi’n fwriadol a bydd mesurau diogelwch ychwanegol ar waith hyd nes y bydd yn ailagor ddydd Mawrth,” meddai Jennie Griffiths, pennaeth rheoli tanau Gwasanaethau Tân ac Achub De a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan nodi cyfeirnod 525 30/4/16.