(llun: PA)
Dylai cefnogwyr y Blaid Lafur roi eu hail bleidleisiau i Blaid Cymru, yn ôl grŵp o economegwyr amlwg sydd â chysylltiadau cryf â’r sefydliad Llafur yng Nghymru.
Er eu bod yn awyddus i weld Llywodraeth Lafur Cymru’n cael ei hailethol yr wythnos nesaf, maen nhw’n dadlau mai ‘gwastraff ar bleidlais’ fyddai cefnogi Llafur ar y rhestrau rhanbarthol mewn sawl rhan o Gymru.
Mae’r grwp yn cynnwys rhai o economegwyr mwyaf blaenllaw Cymru:
- Yr Athro Kevin Morgan, cadeirydd ymgyrch Ie dros Gymru yn 1997, a fu’n allweddol yn ymgyrch Rhodri Morgan am arweinyddiaeth Llafur
- Yr Athro Ian Hargreaves, cyn ymgynghorydd arbennig i’r Ysgrifennydd Tramor Llafur David Miliband
- Yr Athro Gerry Holtham, cyn ymgynghorydd arbennig i’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt, a chyn gyfarwyddwr y sefydliad ymchwil IPPR
- Hywel Ceri Jones, cyn ymgynghorydd Ewropeaidd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a chyn gyfarwyddwr yn y Comisiwn Ewropeaidd
- Yr academydd a’r cyn-AS Llafur David Marquant
- Yr Athro Brian Morgan o Ysgol Reolaeth Caerdydd a chyn brif economegydd Awdurdod Datblygu Cymru.
“Fel cefnogwyr oes i’r Blaid Lafur, rydym yn gwbl ymroddedig i dychwelyd Llywodraeth Lafur yng Nghymru yr wythnos nesaf,” meddai’r economegwyr mewn llythyr yn y Western Mail.
“Lle mae Llafur yn gwneud yn dda yn yr etholaethau mae’n gwneud yn wael ar y rhestr ranbarthol, a dyna pam fod cymaint o bobl yn credu bod ail bleidlais i Lafur mewn ardaloedd fel De Cymru er enghraifft, yn wastraff o bleidlais.
“Yn yr ardaloedd hyn mae’n gwneud synnwyr i bleidleiswyr fwrw eu pleidlais mewn modd pwrpasol – i helpu plaid flaengar fel Plaid Cymru a rhwysto unrhyw blaid sy’n hyrwyddo ofn a rhagfarn.”
Wrth groesawu eu cyhoeddiad, meddai Simon Thomas, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro:
“Mae’n wir fod angen i’r sawl sydd eisiau gweld Cymru yn dilyn llwybr blaengar wedi Mai’r 5ed bleidleisio dros Blaid Cymru.
“Mae Llafur wedi profi eu bod, wedi dwy flynedd ar bymtheg mewn llywodraeth, yn brin o nerth a syniadau. Mae’n bryd cael plaid all gwrdd â’r her sy’n wynebu Cymru – Plaid Cymru yw’r newid y mae ar Gymru ei angen.”