Mae gwefan sy’n rhoi cyngor i bleidleiswyr newydd wedi cael ei lansio sy’n dangos pa blaid wleidyddol sy’n cyd-fynd orau â safbwyntiau’r etholwr.
Mae’r tîm o academyddion, dan arweiniad Dr Matt Wall, uwch-ddarlithydd Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi creu’r wefan ddwyieithog sy’n cymharu barn wleidyddol unigolion â safbwyntiau polisïau’r prif bleidiau sy’n cystadlu yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Daw’r wefan i’r fei wythnos cyn etholiad Cynulliad Cymru ac er bod dros 40 o wefannau ar gael ar gyfer etholiadau cenedlaethol ledled Ewrop, dyma’r cyntaf i helpu pleidleiswyr yng Nghymru.
Y nod yw ysbrydoli pobl i feddwl yn ddyfnach am wleidyddiaeth a pholisïau, ac i gael yr hyder i fwrw eu pleidlais wythnos nesaf.
Meddai Dr Matt Wall: “Mae’r syniad y tu ôl i wefan Cwmpawd Etholiad yn syml iawn. Mae’n gofyn 30 cwestiwn sydd wrth wraidd y ddadl wleidyddol yng Nghymru, ac yna rhoddir canlyniad ‘paru’ unigryw sy’n dangos pa mor agos mae barn y defnyddiwr yn paru â safbwyntiau polisi’r partïon.
“Mae’r wefan yn gofyn cwestiynau sy’n canolbwyntio ar feysydd y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt dan ddatganoli e.e. iechyd, addysg, trafnidiaeth, yr economi yng Nghymru, yr amgylchedd, yn ogystal â datganoli ei hun.”