Neil McEvoy
Mae ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd wedi dweud ei fod yn gynddeiriog ar ôl i’w arwyddion gwleidyddol gael eu tynnu i lawr.
Dywedodd Neil McEvoy fod Heddlu De Cymru wedi rhoi gwybod iddo mai Cyngor Caerdydd “sy’n cael ei redeg gan Lafur” fu wrthi, a’u bod wedi mynd ar “dir preifat” er mwyn eu cymryd oddi yno.
Mewn fideo a bostiodd yr ymgeisydd ar YouTube, mynnodd fod y weithred yn “ddifrodi troseddol” ac yn “ladrad”, a’i ddisgrifio fel “sgandal llwyr”.
Yn ôl ymgeisydd Plaid Cymru fe gafodd tua 17 o arwyddion yn ardal Gorse Place, Plasbach a Hazel Place yn ardal Tyllgoed y ddinas eu cymryd.
‘Pa hawl?’
Dywedodd un o’r trigolion oedd wedi gosod arwydd Plaid Cymru yn ei gardd ffrynt, fod ei un hi wedi cael ei gymryd rywbryd rhwng 2.30yb, pan aeth hi i’r gwely, a’r bore drannoeth.
“Pa fath o Gyngor sydd yn dod yr adeg honno o’r bore, yn stelcian, a thu ôl i’ch cefn chi,” meddai Mrs Clemence, sy’n siarad yn y fideo.
“Mae pob person ar hyd y stryd yma yn berchen eu tai, ac wedi gwneud ers yr 1970au. Felly pa hawl sydd gan y Cyngor i ddod i fy nhŷ i?”
Mynnu gwaharddiad
Mynnodd Neil McEvoy y dylai’r cyngor wahardd eu Cyfarwyddwr Gwasanaethau yn dilyn y digwyddiadau, gan holi hefyd a oedd gweithwyr wedi cael eu talu’n ychwanegol am ddod i dynnu arwyddion ganol nos.
Dywedodd yr ymgeisydd bod un o drigolion eraill yr ardal wedi cwyno bod Tai Wales & West hefyd wedi tynnu arwydd o’i dŷ ef, a bod Prif Weithredwr y gymdeithas dai wedi cadarnhau wrtho ei bod hi’n aelod o’r Blaid Lafur.
Mewn ymateb mynnodd Prif Weithredwr Tai Wales & West, Ann Hinchey, sydd yn aelod o’r Blaid Lafur, wrth golwg360 fod polisi’r gymdeithas dai yn hollol gytbwys i bob plaid a bod un o weithwyr Plaid Cymru wedi cydnabod fod yr arwydd wedi cael ei osod yn y lle anghywir.
“Fe ffoniais i Neil ac esbonio hyn iddo ddoe – yn anffodus fe ddechreuodd e fod ychydig yn rhy sarhaus a bygythiol felly roedd yn rhaid i ni ddod a’r sgwrs i ben,” meddai Ann Hinchey wrth golwg360.
“Mae gennym ni bolisi, mewn cyfnod etholiad, bod ein trigolion yn cael codi arwyddion, posteri a phlacardiau y tu allan i’w cartrefi, ble mae’n glir fod yr arwydd yn berchen iddyn nhw.
“Beth d’yn ni ddim yn caniatáu yw pobol yn rhoi arwyddion mewn ardaloedd cymunedol, fel polion lamp, rheiliau ac yn y blaen. Does gennym ni fel sefydliad ddim ymlyniad gwleidyddol, ac felly allwn ni ddim caniatáu i’n heiddo ni gael ei defnyddio gan blaid wleidyddol.
“Fe wnaethon ni dynnu un arwydd Plaid Cymru i lawr – un arwydd – ar ôl i rywun gwyno ei fod ar reiliau, a’i ddychwelyd i’r blaid. Mae’r polisi yma’n bodoli yn ein holl eiddo ar draws Cymru, ac yn sicr nid yn weithredol dim ond i [arwyddion] Plaid Cymru. Dyma’r unig achos lle mae rhywun wedi cwyno.”
Ymateb Cyngor Caerdydd
“Mae’r cyhuddiadau bod Cyngor Dinas Caerdydd yn tynnu placardiau gwleidyddol i lawr o erddi preifat yn hollol anghywir a di-sail,” meddai llefarydd.
“Mae safbwynt y Cyngor yn glir – ni chaniateir arwyddion gwleidyddol ar gyfer unrhyw blaid mewn ardaloedd cymunedol y mae’r Cyngor yn berchen arnynt. Mae’r Swyddog Monitro wedi cynnig cyngor ar y mater hwn, ac mae staff wedi gweithredu’n gywir yn unol â hyn.
“Cododd sefyllfa debyg pan ymddangosodd posteri anghyfreithlon ar eiddo’r Cyngor dros nos ar gyfer yr ymgyrch Vote Leave ar gyfer Refferendwm yr UE. Cawsant eu tynnu i lawr a dywedwyd wrth y grŵp ymgyrchu i beidio â gwneud hyn eto ac y byddai’n rhaid iddynt dalu i’w tynnu i lawr yn y dyfodol.
“Neithiwr, gwnaed cyhuddiadau pellach ar y cyfryngau cymdeithasol gan ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Gorllewin Caerdydd, Neil McEvoy. Roedd y cyhuddiadau hyn yn berthnasol i Gorse Place yn y Tyllgoed ac yn cyhuddo’r Cyngor o anfon staff allan yn oriau mân y bore i dynnu placardiau gwleidyddol i lawr o erddi preifat. Nid oes unrhyw sail i’r honiadau hyn.
“Ailadroddwn, nid yw’r Cyngor wedi tynnu placardiau gwleidyddol i lawr o eiddo preifat.
“Byddwn yn cyfathrebu ymhellach â phob ymgeisydd ac Aelod i’w hatgoffa o’u cyfrifoldebau. Nid yw’r Cyngor yn derbyn cael ei gyhuddo o duedd wleidyddol yn ystod cyfnod yr etholiad.”