Sajid Javid yn cwrdd a gweithwyr Port Talbot ar ddechrau'r mis
Fe fydd yr Ysgrifennydd Busnes yn cael ei holi gan Aelodau Seneddol ynglŷn â’r argyfwng yn y diwydiant dur a’r ymdrechion i achub miloedd o swyddi heddiw.

Mae disgwyl i Sajid Javid fynd gerbron Pwyllgor Busnes San Steffan ddydd Iau wrth i ymdrechion barhau i ddod o hyd i brynwr ar gyfer asedau cwmni Tata yn y DU.

Fe fydd prif weithredwr Tata, Bimlendra Jha, Gareth Stace o’r grŵp masnach UK Steel, a Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol undeb Community, hefyd yn mynd gerbron y pwyllgor dethol.

Ymhlith y rhai eraill fydd yn rhoi tystiolaeth mae Marc Meyohas o Greybull Capital sy’n prynu gwaith dur Tata yn Scunthorpe.

Roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi ymweld â gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot ddoe er mwyn sicrhau’r gweithwyr, undebau a phenaethiaid o ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi’r diwydiant dur.

Mae Undebau wedi croesawu cynigion diweddar o gymorth gan y Llywodraeth i unrhyw brynwyr posib ond maen nhw’n pwysleisio bod yn rhaid i hynny gynnwys y gweithfeydd ar draws y DU ac nid yng Nghymru yn unig.

Dywedodd Roy Rickhuss bod y Prif Weinidog wedi rhoi “addewid i wneud popeth yn ei allu i ddiogelu swyddi’r gweithwyr dur” ac y byddai ei undeb yn pwyso arno “i gadw at ei air.”