Llun: S4C
Roedd gwylwyr rhaglen Heno ar S4C wedi’u siomi neithiwr ar ôl i’r rhaglen fethu â darlledu’n fyw o’i stiwdio yn Llanelli.
Roedd yr ardal wedi colli ei chyflenwad trydan gan olygu nad oedd y rhaglen nosweithiol wedi cael ei darlledu ar y teledu ac roedd yn rhaid dangos ailddarllediad o raglen Cofio yn lle.
Gwaith gan weithwyr Swalec oedd yn gyfrifol am y toriad yn y cyflenwad trydan a effeithiodd ar ran helaeth o Lanelli rhwng 6:30yh a 8:30yh nos Fawrth.
Yn ôl Angharad Mair, golygydd a chyflwynwraig y rhaglen, roedd yn “rhwystredig tu hwnt” gan nad oedd y cwmni wedi meddwl rhoi gwybod iddyn nhw am y gwaith.
Bydd y rhaglen yn dangos yr eitemau oedd i’w darlledu neithiwr yn ystod yr wythnos, gan gynnwys cyfweliad â’r gantores, Rhian Lois, am ei rhan mewn cyngerdd fawreddog yn Stratford i nodi pen-blwydd Shakespeare, a fydd yn cael ei darlledu heno (nos Fercher).