Michael Coleman fu farw yn y gwrthdrawiad ar yr M4
Mae gyrrwr tancer wedi cyfaddef achosi marwolaeth gyrrwr craen symudol mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Caerdydd.

Yn Llys y Goron Caerdydd fe blediodd Carl Askew, 47, o Swydd Gaerloyw yn euog o achosi marwolaeth Michael Coleman, 50, o Fetws ger Rhydaman, drwy yrru’n ddiofal.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffordd 30 a 32 ar 2 Tachwedd 2015 a bu rhan o’r draffordd ynghau am rai oriau.

Cafodd Carl Askew ei ryddhau ar fechnïaeth a’i wahardd rhag gyrru tan y gwrandawiad nesaf ar 23 Mai pan fydd yn cael ei ddedfrydu.

Mae’r barnwr wedi  rhybuddio Askew y gallai wynebu dedfryd o garchar.