Llun gwneud o'r Pafiliwn newydd
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi rhybuddio pobol bod dyddiad cau cystadlaethau llwyfan yr ŵyl eleni yn agosáu.
Os am gystadlu yn Eisteddfod Sir Fynwy, rhaid i unigolion, grwpiau, partïon, bandiau a chorau gofrestru erbyn 1 Mai.
Mae’r trefnwyr yn dweud bod y nifer sydd wedi ymateb i’r cystadlaethau cyfansoddi eleni wedi bod yn “ardderchog” a’i bod yn “awyddus i gael ymateb cystal” i’r cystadlaethau llwyfan.
“Mae gennym bafiliwn newydd eleni, wrth gwrs, sy’n mynd i gynnig gwell profiad i’r cystadleuwyr a’r gynulleidfa, felly beth am gystadlu er mwyn bod yn un o’r cyntaf i berfformio ar ein llwyfan newydd sbon?” meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod.
Dim darnau gosod
Er mwyn denu mwy o gystadleuwyr, mae’r Eisteddfod wedi penderfynu peidio rhoi darnau gosod ar y cystadlaethau.
“Felly mae rhwydd hynt i berfformio unrhyw ddarnau neu ganeuon sy’n apelio at y grŵp neu’r côr, a bydd hyn yn creu cystadlaethau mwy amrywiol a hwyliog gobeithio, a fydd yn apelio at y perfformwyr eu hunain yn ogystal â’r gynulleidfa,” meddai Elen Elis.
Am y tro cyntaf erioed, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi system ar-lein newydd i gofrestru, sy’n gwneud y gwaith “llawer yn haws”, ond mae modd o hyd postio ffurflenni cais sydd ar gael yn y Rhestr Testunau, ar-lein neu drwy ffonio’r swyddfa ar 0845 4090 400.
“Mae cystadlu yn y brifwyl yn brofiad arbennig, yn llawer o hwyl ac yn gyfle i dderbyn sylwadau gan feirniaid o’r safon uchaf. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli’ch cyfle i fod yn rhan o hyn oll yn Y Fenni,” yw neges y brifwyl.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn cael ei chynnal ar Ddolydd y Castell, Y Fenni rhwng 29 Gorffennaf a 6 Awst.