Gareth Cooper
Daeth y newyddion heddiw fod y cwmni sy’n cynnal Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion, wedi prynu cyfran fawr yng Ngŵyl Glass Butter Beach yn Abersoch.
A chyda hynny, mae sylfaenydd y cwmni Broadwick Live wedi addo y bydd rhagor o fandiau Cymraeg yn cael cyfle i berfformio ar lwyfan yr ŵyl tonfyrddio wrth iddi fynd o nerth i nerth.
Dywedodd Gareth Cooper, sydd nawr yn berchen ar 65% o ŵyl Glass Butter Beach, ei fod yn cofio mynd ar wyliau o’i gartref yng Nghaer i Abersoch pan oedd yn blentyn yn yr haf.
“Dwi’n meddwl y bydd [gŵyl Glass Butter Beach] yn gyfle da i ddod â phobol i Abersoch a rhoi rhywle lle gallan nhw wersylla, gwrando ar gerddoriaeth a gweld y [gystadleuaeth] tonfyrddio,” meddai wrth golwg360.
“Rydym yn ceisio rhoi rhywbeth i bobol ifanc 18-24 oed ei wneud yng ngogledd Cymru.
“Dydyn ni ddim jyst yn dod fan hyn i wneud arian, ond rydym yn mynd i roi rhywbeth iddyn nhw edrych ymlaen ato ym mis Awst.”
Dim artistiaid Cymraeg – hyd yn hyn
Mae llawer o’r artistiaid gŵyl Glass Butter Beach wedi’u cyhoeddi, gan gynnwys Wolf Alice, Katy B a Kodaline.
Ond hyd yn hyn, yn wahanol i ŵyl Rhif 6, does yr un artist Cymraeg i weld ar y lein-yp.
Er hyn, mae’r perchennog newydd yn addo y bydd artistiaid Cymraeg yn cael llwyfan yn y dyfodol ac y bydd arwyddion yr ŵyl eleni yn hollol ddwyieithog.
“Gobeithio ein bod ni wedi dangos gyda Gŵyl Rhif 6 ein bod ni’n gwneud cysylltiad â siaradwyr Cymraeg, mae gennym lwyfan Cymraeg ar gyfer bandiau,” meddai Gareth Cooper.
“Bydd ein harwyddion ni’n ddwyieithog, ac rydym yn cyflwyno rhagor o fandiau Cymraeg, lleol a DJ’s Cymraeg hefyd.”
Efelychu gwyliau mawr Ewrop
Mae’r cwmni Broadwick Live, sydd â’i swyddfeydd yn Llundain a Los Angeles, yn berchen ar 10 gŵyl i gyd, gan gynnwys dwy ŵyl chwaraeon anferthol yn Ewrop – Snowbombing yn Awstria a Transition Snow yn Ffrainc.
Yn ôl Gareth Cooper, mae gan Glass Butter Beach, sydd fel arfer yn denu rhyw 1,500 o bobol, y potensial i efelychu’r gwyliau mwy, ac mae’n gobeithio y bydd tua 5,000 yn dod i Abersoch eleni.
Dywedodd ei fod yn “gyfle da i greu rhywbeth newydd a ffres i’r ardal leol” gyda’r gobaith y bydd “pobol ledled Gogledd Cymru eisiau dod.”
“Rydym yn codi’r rhanbarth (Gogledd Cymru) yn gymdeithasol ac yn economaidd,” meddai, gan bwysleisio bod y cwmni yn “cyflogi staff lleol” mewn digwyddiadau.
Mae disgwyl 15,000 o bobol fynd i Ŵyl Rhif 6 eleni, meddai’r trefnwyr.