Mae 750 o swyddi yn y fantol yn y gweithfeydd ym Mhort Talbot
Fe fydd nifer o eglwysi yn ardal Port Talbot yn dod ynghyd brynhawn dydd Sul ar gyfer gwasanaeth arbennig ar gyfer gweithwyr dur yr ardal.

Fe fydd mwy na 1,000 o swyddi yn cael eu colli ar ôl i gwmni Tata benderfynu gwerthu rhannau Prydeinig y busnes.

Mae disgwyl i 750 o swyddi gael eu colli ym Mhort Talbot.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys y Bedyddwyr Ebenezer yn y dref am 3 o’r gloch.

Bydd 16 o arweinwyr eglwysi a chapeli’r ardal yn cyfrannu at y gwasanaeth, ynghyd â phlant o Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan a Chôr Meibion Maesteg.

Cafodd y gwasanaeth ei gynllunio gan gaplan Tata, Rick Hayes.

‘Cynnig gobaith’

Dywedodd gweinidog Eglwys y Bedyddwyr Ebenezer, y Parchedig Peter Davies wrth Golwg360: “Cefnogwyd y syniad yn frwdfrydig gan eglwysi Port Talbot.

“Bydd e’n rhoi cyfle i bobol Port Talbot i wybod bod cefnogaeth iddynt o gyfeiriad yr eglwysi, ein bod ni’n moyn bod ar eu cyfer nhw o ran gwrando ar eu hanawsterau, ond hefyd cynnig gobaith iddyn nhw bod ’na bethau ry’n ni’n gallu’u gwneud i’w helpu nhw, boed yn ysbrydol neu’n faterol.”

Dywedodd fod cryn ansicrwydd ynghylch y dyfodol ymhlith aelodau’r gymuned ym Mhort Talbot o hyd.

“Mae’r teimladau’n gymysg yn gymaint â bod ’na siom ynglyn a’r newyddion am y diswyddiadau ond mae hefyd llygedyn o obaith o ran bod ’na newyddion ar led y bydd ’na fuddsoddiad ariannol i helpu gwaith dur Port Talbot.”

Ond fe bwysleisiodd y Parchedig Peter Davies hefyd fod gan yr eglwysi a’r capeli ran i’w chwarae yn y gymuned ar adeg mor bryderus.

“O ran help, gwrando arnyn nhw o ran eu gofidiau ac estyn cymorth iddyn nhw o ran rhannu gwybodaeth ynglyn â chymorth ymarferol ond hefyd y cymorth ysbrydol ry’n ni’n gallu ei roi. Maen nhw’n barod i dderbyn hynny.”