Dylid ystyried cyflwyno pleidlais orfodol ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, yn ôl y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn y llywodraeth Lafur ddiwethaf.

Gwnaeth Ken Skates ei sylwadau ar raglen ‘Sunday Supplement’ ar Radio Wales fore Sul.

Fe fyddai’r fath gam yn arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad, meddai.

Daw ei sylwadau yn dilyn rhybudd gan arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies y gallai’r nifer isaf erioed o bleidleiswyr fwrw eu pleidlais ar Fai 5.

Dydy’r Blaid Lafur, sydd wedi gwrthwynebu’r syniad yn y gorffennol, ddim wedi gwneud sylw am y mater.

Dywedodd Skates, sy’n ymgeisydd yn Ne Clwyd, ei fod yn siomedig pan bleidleisiodd 40% o bobol yn unig yn yr etholaeth y tro diwethaf.

“Mae’n bwysig archwilio’r holl bosibiliadau er mwyn gwella’r niferoedd gan ddefnyddio technoleg ddigidol, ond hefyd ystyried pleidleisio gorfodol.”