Mae dyn wedi marw, a chwech o bobol eraill wedi cael eu hanafu mewn damwain ar briffordd yr A534 ger Holt yn Wrecsam.

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i safle’r gwrthdrawiad rhwng car VW Polo glas a Dacia Sandero gwyn, toc wedi 4yp ddoe.

Bu farw dyn yn ei 40au yn y fan a’r lle, ac mae gyrrwr y VW Polo wedi’i gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Frenhinol Prifysgol Stoke.

Fe gludwyd y pump arall i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i’r digwyddiad.