Sean Williams (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae gyrrwr oedd yn defnyddio’r cyffur cocên ac a gafodd ei ddal yn gwneud 130 milltir yr awr er mwyn osgoi’r heddlu, wedi cael ei garcharu am 9 mis.

Roedd Sean Williams, 27, wedi mynd ar ei ben i mewn i gonau gwaith ffordd ar un o lonydd yr A55; cyn gyrru yn y cyfeiriad anghywir o gwmpas cylchfan; cyn wedyn neidio o’i gar Mazda tra’r oedd hwnnw’n dal i symud.

Fe gafodd ei ddal wedi i swyddogion Heddlu Gogledd Cymru ddefnyddio gwn Taser i’w rwystro yn ninas Bangor.

Roedd Sean Williams, plastrwr wrth ei alwedigaeth, o Min y Coed, Bangor, wedi cyfadde’ gyrru’n beryglus, bod â chyffur yn ei feddiant, methu stopio ac o wrthsefyll yr heddlu; yn ogystal â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Mae wedi’i wahardd rhag gyrru am dair blynedd, a bydd yn rhaid iddo gymryd ei brawf eto pan ddaw’r gwaharddiad i ben.