Nigel Owens
Fe fydd y dyfarnwr rygbi, Nigel Owens, ymhlith y bobol sy’n cael eu hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor eleni, wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd.
Mae’r brifysgol wedi cyhoeddi pwy fydd yn derbyn yr anrhydeddau yn ei seremonïau graddio ym mis Gorffennaf, gyda’r tad a’r ferch, J.O. Roberts a Nia Roberts, hefyd yn eu plith.
Mae’r rhestr lawn yn cynnwys y gantores opera Elin Manahan-Thomas, Susan Ridge – Prif Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Fyddin a Rhian Huws-Williams – Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru.
Bydd cyn-Brif Swyddog Meddygol Ruth Hussey, hefyd yn derbyn un am ei gwasanaeth i Wyddorau Meddygol a’r cerflunydd John Meirion Morris, am ei gyfraniad i’r celfyddydau.
Bydd Glyn Watkin Jones o’r cwmni datblygu ac adeiladu lleol, Watkin Jones & Son Ltd, a oedd yn gyfrifol am osod carreg sylfaen Prifysgol Bangor yn 1907, yn derbyn Cymrodoriaeth am wasanaeth i ddiwydiant.
Anrhydeddu Llywodraethwr Banc Bahrain
Bydd cyn-Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Merfyn Jones, CBE, yn cael ei anrhydeddu hefyd a Llywodraethwr Banc Canolog Bahrain, Ei Archdderchowgrwydd M. Rasheed Mohammed Al Maraj, am wasanaeth i fyd Bancio.
“Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiannau ein holl raddedigion, ac yn eu dathlu, yn enwedig y rhai hynny sydd yn graddio eleni,” meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol.
“Mae cynnal seremonïau graddio hefyd yn gyfle i ni ymfalchïo yn llwyddiant eraill o’n cymuned neu i anrhydeddu’r rhai hynny sydd â pherthynas agos â’r Brifysgol. Mae eu llwyddiant yn gosod esiampl wych i’n myfyrwyr o’r hyn a ellir ei gyflawni.”
14 Cymrodoriaeth er Anrhydedd oedd y brifysgol yn eu dyfarnu eleni a hynny i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad yn eu meysydd dethol, fel diwydiant, busnes, bywyd cyhoeddus neu’r celfyddydau.