Yn dilyn camgymeriad “a allai fod wedi bod yn drychinebus”, mae cyn-ddirprwy reolwr cartref gofal wedi ei dileu oddi ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
Roedd Michelle Williams eisoes wedi ei diswyddo gan Gyngor Blaenau Gwent.
Bu i bwyllgor Cyngor Gofal Cymru glywed fod Michelle Williams wedi rhoi moddion drwy’r geg i breswylydd, yn hytrach nag ar y croen ym mis Rhagfyr 2014.
Ddeuddydd yn ddiweddarach mewn cartref gofal ym Mlaenau Gwent, dywedodd wrth gydweithiwr i wneud yr un peth. Mae’n debyg fod y preswylydd wedi bod yn sâl ar y ddau dro.
Cafodd ei chyhuddo hefyd o beidio â nôl cymorth meddygol ar ôl sylweddoli ei chamgymeriad, pedwar diwrnod yn ddiweddarach, ac o beidio â rhoi gwybod i’w chyflogwr am y digwyddiad.
Doedd Michelle Williams ddim wedi cofnodi’r digwyddiad ychwaith yn unol â’r broses Amddiffyn Oedolion Bregus, er y gallai’r preswylydd fod wedi marw o gymryd y feddyginiaeth yn y ffordd anghywir.
Euog o ddau gyhuddiad
Roedd y pwyllgor wedi dyfarnu bod Michelle Williams yn euog o’r ddau gyhuddiad ond nad oedd tystiolaeth ei bod yn euog o gam-gofnodi bod y moddion i’w gymryd drwy’r geg ar y Cofnod Gweinyddu Meddyginiaeth.
Cafodd ei gwahardd o’r gwaith pan ddaeth y camgymeriadau i’r amlwg ym mis Ionawr 2015 a chafodd ei diswyddo gan Gyngor Blaenau Gwent.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Eileen Schott, bod y panel yn “poeni’n fawr” iddi fethu â rhoi gwybod am y camgymeriad ar ôl iddi ddod yn ymwybodol ohono.
“Cafodd y Cofrestrai fwy nag un cyfle i roi gwybod am y camgymeriad gyda’r feddyginiaeth neu i ofyn am gymorth meddygol, ond ni wnaeth hynny,” meddai.
“Nododd y Pwyllgor mai dim ond fis yn ddiweddarach y daeth y mater i’r golwg o ganlyniad i gydweithiwr sôn am y peth wrth Reolwr y Cartref.”
Er hyn, roedd y panel wedi cydnabod bod Michelle Williams wedi cyfaddef ei chamgymeriad yn ystod cyfweliadau gyda’i chyflogwyr.
Preswylydd “bregus”
Yn ôl y panel, roedd Michelle Williams wedi methu ymddwyn yn dryloyw ac y gallai’r preswylydd “bregus” fod wedi marw.
“Dyfarnodd y pwyllgor fod ymddygiad y Cofrestrai wedi codi amheuon ynghylch ei haddasrwydd i barhau ar y gofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol yn ddiamod ac felly roedd yn gyfystyr â chamymddygiad,” ychwanegodd Eileen Schott.
Dywedodd mai dileu Michelle Williams o’r gofrestr oedd yr “unig gam priodol” i’w gymryd.