Mae Cymdeithas yr Iaith wedi marcio maniffestos pleidiau sy’n sefyll yn etholiadau’r Cynulliad eleni o ran pa mor gefnogol ydyn nhw tuag at y Gymraeg.
Drwy ddilyn trefn farcio’r mudiad, mae’n debyg mai maniffestos Llafur Cymru a Ukip a berfformiodd waethaf o ran y Gymraeg, a hynny oherwydd “diffyg manylder”.
Panel o aelodau’r mudiad fu’n cloriannu cynigion polisi’r pleidiau ar yr Iaith, gan farnu pa mor agos oedden nhw at weledigaeth Cymdeithas yr Iaith ar gyfer y Gymraeg dan law Llywodraeth nesaf Cymru.
Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar y nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn, uchelgais y mae Llafur Cymru yn honni iddi rannu â’r Gymdeithas.
Y canlyniadau
Plaid Cymru gafodd y marc uchaf am ei chynigion yn ymwneud â’r Gymraeg, gan sgorio 77%, a’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ddaeth yn ail â 44%.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Werdd Cymru yn gydradd ar 35%, gyda Llafur Cymru ar ei hôl hi ar 20% ac Ukip yn olaf ar 16%.
Yn ôl y mudiad, roedd sawl un o’r pleidiau yn cefnogi ei ymgyrch o gyflwyno addysg Gymraeg i bawb ac ymestyn gwaith y Coleg Cymraeg i gynnwys addysg bellach.
“Diffyg manylion” mewn maniffestos
Yn ôl cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan, “diffyg manylion” oedd y rheswm dros sgôr isel llawer o’r pleidiau, gydag hyn hefyd yn “achosi anhawster” i bleidleiswyr sy’n dal i benderfynu I bwy fyddan nhw’n bwrw croes.
“Er bod nifer o’r pleidiau wedi cynnig geiriau cynnes tuag at yr iaith, prin oedd y manylion o ran gwneud y dewisiadau anodd er mwyn sicrhau ein bod yn gweld ei ffyniant,” meddai.
“Yn achos nifer o’r pleidiau, bu diffyg manylion yn achosi anhawster o ran dod i gasgliad a oedd y blaid gyda chynllun cynhwysfawr i sicrhau ffyniant y Gymraeg ai beidio.
“Mae’n debyg bod y diffyg gwybodaeth sy’n cael ei gynnig gan rai o’r pleidiau yn gwneud yn anos i etholwyr benderfynu sut i bleidleisio.”
Cafodd marciau eu rhoi i faniffesto’r pleidiau ar feysydd addysg, hawliau, cymunedau, digidol gyda marciau ychwanegol am gynigion eraill.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod y sgôr derfynol wedi’i rhoi ar sail sgôr gyfartalog y panel a farciodd y maniffestos er mwyn sicrhau cysondeb.
Marciau Llawn:
Plaid Cymru: Sgôr gyfartalog = 83/108 (77%)
Y Blaid Werdd: Sgôr gyfartalog = 37.33/108 (35%)
Democratiaid Rhyddfrydol: Sgôr gyfartalog = 47.66/108 (44%)
UKIP: Sgôr gyfartalog = 17/108 (16%)
Ceidwadwyr: Sgôr gyfartalog = 37.66/108 (35%)
Llafur: Sgôr gyfartalog = 21.33/108 (20%)