Sgrin sinema newydd yn cyrraedd Coliseum Aberystwyth (Llun: Cyngor Ceredigion)
Fe fydd modd i drigolion Ceredigion weld ffilmiau mewn sinema sydd dros 100 oed ymhen wythnos, yn dilyn seibiant o bron i 40 mlynedd.
Ar ôl cael grant o £13,917 gan Gyngor Ceredigion. Mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion wedi ailosod sgrin sinema maint llawn yn y Coliseum yn Aberystwyth am y tro cyntaf ers 1977.
Cafodd y Coliseum, sy’n adeilad hanesyddol Gradd 2, ei agor fel theatr adloniant yn 1905 a ddaeth yn sinema ar ddechrau 1930au.
Mae wedi bod yn fan storio hanes y sir fel amgueddfa ers yr 1980au – ond bydd yn sinema o hyn ymlaen hefyd, gyda chadeiriau cyfforddus, cyfarpar clywedol modern a dolen sain ar gyfer pobol â nam ar eu clyw.
Charlie Chaplin yn dod i Aberystwyth
Ar y noson agoriadol bydd y sinema yn dangos un o ffilmiau mud Charlie Chaplin Shoulders Arms, gyda chyfeiliant gan y cerddor, Dr. Stephen Briggs.
Mae’r ffilm wedi ei gosod yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae’n rhan o raglen o weithgareddau’r amgueddfa, sy’n cynnwys yr arddangosfa o bosteri propaganda’r cyfnod.
“Buon ni’n dangos ffilmiau ers tro, ac maen nhw’n boblogaidd iawn, yn enwedig y ffilmiau mud, ond bu’n rhaid inni fenthyg cyfarpar a doedd y sgrin ddim yn fawr iawn,” meddai Carrie Canham, curadur Amgueddfa Ceredigion.
“Nawr gallwn wneud cyfiawnder â’r ffilmiau a bydd yn brofiad brafiach i’r gynulleidfa. Mawr yw ein diolch i’r Cyfeillion am eu gwaith called yn sicrhau’r arian inni. Mae’n helpu gyda’r cyllid cyfatebol ar gyfer prosiect y Loteri Treftadaeth.”
Cronfa’r Loteri
Mae ailddatblygu’r Coliseum yn rhan o gynllun ‘Dulliau Newydd’ gyda chymorth £1.3 miliwn o Gronfa’r Loteri Treftadaeth sy’n ceisio sicrhau dyfodol yr amgueddfa trwy greu cyfleoedd i wneud incwm a denu mwy o ymwelwyr.
Bydd y sinema yn agor yn swyddogol nos Wener, 29 Ebrill, gyda ffilm Charlie Chaplin, Shoulders in Arms, am 7:30 yr hwyr. Tocynnau’n £7 neu’n £6 gyda gostyngiadau.