Prince - post mortem heddiw (Micahmedia CCA3.0)
Fe fydd post-mortem yn cael ei gynnal heddiw i farwolaeth y seren bop Prince a fu farw’n sydyn ddoe.
Cafwyd hyd i gorff y canwr 57 oed mewn lifft yn ei gartref yn Minnesota, a hynny wythnos ar ôl iddo ymweld â’r ysbyty ar ôl cael ei daro’n wael.
Dyw hi ddim yn amlwg eto beth oedd achos ei farwolaeth, ac mae’r heddlu yn parhau â’u hymchwiliad.
Daeth Prince yn seren fyd-eang yn yr 1980au gyda’i albwm 1999, oedd yn cynnwys rhai o’i ganeuon mwya’ adnabyddus fel ‘Purple Rain’, ‘When Doves Cry’ a ‘Kiss’.
‘Eicon creadigol’
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gartref y canwr am 9.43 fore Iau, ond er gwaethaf ymdrechion y meddygon fe gyhoeddwyd ei farwolaeth lai na hanner awr wedyn.
Yn ystod y dydd fe gasglodd rhai o’i ddilynwyr y tu allan i’w gartref i dalu’u teyrngedau, ac fe gafwyd negeseuon gan enwogion eraill o’r byd pop a thu hwnt.
Dywedodd Madonna, a gydweithiodd â Prince ar un o ganeuon ei halbwm Like A Prayer, ei fod wedi “newid y byd” a’i fod yn “golled enfawr”.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, fod y canwr yn “eicon creadigol”, ac fe ddywedodd y cyfarwyddwr Spike Lee ei fod wedi colli “ffrind” oedd â “synnwyr digrifwch gwych”, gan wahodd pobol i barti stryd yn Efrog Newydd i’w gofio.
Ennill Oscar
Yn ystod ei yrfa fe werthodd Prince dros 100 miliwn o recordiau, gan gipio saith gwobr Grammy yn ogystal ag Oscar am ei gân ‘Purple Rain’.
Mae’r canwr, oedd yn ddim ond pum troedfedd dwy fodfedd o daldra, hefyd yn cael ei gofio am ei ymddygiad ecsentrig ar brydiau gan gynnwys newid ei enw i symbol yn y 1990au.
Bu’n briod ddwywaith, gan wahanu oddi wrth ei wraig gynta’, Mayte Garcia, yn 2000 cyn ysgaru Manuela Testolini yn 2006.
Yn 2007 fe chwaraeodd gigiau am 21 noson yn yr O2 Arena yn Llundain, gan berfformio i gyfanswm o fwy na hanner miliwn o bobol.