Gareth Bale (Llun: UEFA)
Mae trefnwyr Ewro 2016 wedi cyhoeddi y bydd rhagor o docynnau yn mynd ar werth yr wythnos nesaf ar gyfer rhai o gemau’r twrnament bêl-droed yn yr haf.
Fe fydd y newyddion yn cael croeso gan gefnogwyr Cymru, ar ôl i filoedd ohonyn nhw fethu â chael tocynnau yn yr arwerthiannau yn gynharach eleni.
Mae disgwyl i dros 10,000 o gefnogwyr y tîm cenedlaethol deithio i Ffrainc ar gyfer y gystadleuaeth ym mis Mehefin a Gorffennaf, a gwylio gemau un ai yn y stadiwm neu yn y parthau cefnogwyr.
Bydd Cymru’n wynebu Slofacia, Lloegr a Rwsia yn eu grŵp, gan obeithio gorffen o leiaf yn y trydydd safle er mwyn cael cyfle i fynd drwyddo i’r rownd nesaf.
Rhai heb werthu
Cyhoeddodd UEFA y bydden nhw’n agor arwerthiant newydd ar 26 Ebrill fel cyfle olaf i rai cefnogwyr geisio cael tocynnau i wylio’u tîm.
Ond fe fydd y tocynnau yn cael eu gwerthu ar sail cyntaf i’r felin, ac felly bydd rhaid bod yn sydyn os am fanteisio.
Dywedodd y trefnwyr bod y tocynnau ychwanegol wedi dod i law o sawl ffynhonnell, gan gynnwys rhai gwledydd ddim yn gwerthu’r holl docynnau oedd wedi cael eu neilltuo ar gyfer eu cefnogwyr.
Ychwanegodd UEFA y byddai modd gweld ar gyfer pa gemau yr oedd tocynnau sbâr cyn ciwio i geisio’u prynu.
‘Gwerthu am grocbris’
Un gêm sydd yn annhebygol o fod â llawer o docynnau sbâr yw honno rhwng Cymru a Lloegr, fydd yn cael ei chwarae yn Lens ar 16 Mehefin mewn stadiwm sydd ond yn dal 38,000 o gefnogwyr.
Yn gynharach eleni fe ddaeth i’r amlwg fod tocynnau ar gyfer y gêm ar werth ar-lein am 123 y pris gwreiddiol, sef €25 am y rhai rhataf.
Ond fe fethodd Lloegr â gwerthu’u holl docynnau ar gyfer un o’u gemau grŵp eraill, yn erbyn Rwsia ym Marseille.
Mae UEFA eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n gwahanu cefnogwyr Cymru a Lloegr yn y stadiwm nac ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y gêm rhwng y ddau dîm – a hynny eisoes wedi codi pryderon y gallai arwain at drwbwl.