Mae'n annhebygol y bydd maes yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd yn 2018 yn edrych unrhyw beth tebyg i hyn
Roedd cyhoeddiad diweddar yr Eisteddfod Genedlaethol na fyddai ‘maes’ traddodiadol ym mhrifwyl Bae Caerdydd yn 2018 yn un o brif bynciau trafod yr wythnos – ac mae’n ymddangos fod y pwnc wedi hollti barn darllenwyr golwg360 hefyd.
Fe bleidleisiodd cannoedd o bobol yn ein harolwg yr wythnos hon, gyda 47% yn dweud eu bod yn cytuno â chynlluniau’r Eisteddfod.
Anghytuno wnaeth 43% fodd bynnag, gyda’r 10% oedd yn weddill yn dewis yr opsiwn ‘ddim yn siŵr’.
Dyw’r trefnwyr heb gadarnhau union fanylion y lleoliadau fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer yr ŵyl eto, ond y disgwyl yw y bydd Canolfan y Mileniwm yn cymryd lle’r pafiliwn fel y prif lwyfan cystadlu.
Dadansoddiad Iolo Cheung
Mae’r niferoedd a bleidleisiodd yn ei hun yn brawf y bydd y penderfyniad yma gan yr Eisteddfod yn siŵr o fod yn destun am y ddwy flynedd nesaf.
Ac eithrio’r rhai oedd ddim yn siŵr, mae’n ymddangos fel bod y mwyafrif o blaid gweld y brifwyl yn arloesi gyda chynllun gwahanol, a allai fod yn fodd o ddenu tipyn mwy o ymwelwyr newydd.
Bydd tipyn yn edrych ymlaen at weld sut fydd yr arbrawf o Eisteddfod ddinesig yn gweithio – fel y dywedodd un, o leia’ fydd y peiriannau codi arian yn gweithio!
Os yw’n llwyddo i ddenu cynulleidfa newydd i fwynhau diwylliant Cymraeg yna grêt, ac os na wedyn o leia’ fe fyddwn ni’n gwybod hynny wedyn.
Pryderon?
Ond mae’n amlwg bod gan garfan sylweddol bryderon – ac wrth gwrs, pwy a ŵyr beth yw safbwynt yr Eisteddfodwyr hynny oedd heb bleidleisio ym mhôl golwg360 neu sydd ddim yn darllen eu newyddion Cymraeg ar-lein.
Fe fydd traddodiad yn rhan fawr o hynny wrth gwrs, â rhai pobol yn gyndyn o newid trefn sydd wedi gweithio’n ddigon da dros y blynyddoedd.
Ond beth am naws yr ŵyl – a fydd hynny’n cael ei cholli os yw popeth wedi’i wasgaru ar draws dinas anferth? Onid pwrpas mynd i’r Eisteddfod yw dianc o’r bywyd pob dydd ac ymgolli’n llwyr yn y diwylliant Cymreig am wythnos?
Beth am gwestiynau ymarferol, fel lleoliad y stondinau, pebyll y cymdeithasau, meysydd parcio, maes carfannau, a Maes B? A fydd yr ŵyl ar ei cholled os nad oes ffi mynediad?
Digon i gnoi cil drosto felly – gadewch eich sylwadau a rhowch wybod i ni beth ‘dych chi’n meddwl fydd manteision ac anfanteision cael Eisteddfod ddi-faes yn y Bae!