Traeth Morfa Bychan
Fe fydd Pwyllgor Iaith Cyngor Gwynedd yn cyfarfod heddiw i drafod cwyn sydd wedi cael ei gwneud ynglŷn ag enw Saesneg sy’n cael ei ddefnyddio ar fap ar gyfer traeth Morfa Bychan ger Porthmadog.

Yr enw ‘Black Rock Sands’ sy’n cael ei ddefnyddio ar fapiau’r Arolwg Ordnans (AO), yn hytrach nag un o’r enwau Cymraeg ar gyfer yr ardal, sef ‘Traeth y Greigddu’ neu ‘Traeth Morfa Bychan.’

Mae’n debyg fod aelod o Gyngor Gwynedd wedi cadarnhau mai’r fersiwn Saesneg oedd yn cael ei ddefnyddio’n lleol, yn dilyn ymholiad gan yr AO ddechrau’r flwyddyn.

 ‘Barod i gydweithio’

Dywedodd llefarydd ar ran yr Arolwg Ordnans (AO) fod yr enw Saesneg wedi’i ddefnyddio ar y map “ers y 1950au ac nad oedden nhw’n siŵr pam fod hyn wedi codi nawr – mae’r enw ‘Black Rock Sands’ wedi ymddangos ar fapiau’r Arolwg Ordnans am sawl degawd,” ychwanegodd.

Er hyn, dywedodd y llefarydd eu bod nhw’n barod i gydweithio â Chyngor Gwynedd a’i fod “yn bwysig clywed gwybodaeth leol o ran enwau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod “trafodaethau yn parhau gyda’r Arolwg Ordnans ynghylch yr enw y dylid ei ddefnyddio ar fapiau.”