Ched Evans Llun: PA
Fe fydd y pêl-droediwr Ched Evans yn clywed heddiw a yw wedi ennill her yn erbyn ei ddyfarniad am dreisio merch 19 oed yn Y Rhyl.
Mae disgwyl i dri barnwr yn y Llys Apêl – Y Fonesig Ustus Hallett, Mr Ustus Flaux a Syr David Maddison – gyhoeddi eu penderfyniad ddydd Iau yn dilyn proses apêl fis diwethaf.
Roedd cyn-bêl-droediwr Cymru a Sheffield United, sy’n 27 oed, yn y llys yn Llundain wythnos diwethaf ar gyfer y gwrandawiad gyda’i gariad Natasha Massey wrth ei ochr.
Cafodd Ched Evans ei ddyfarnu’n euog yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Ebrill 2012 am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl. Cafodd ei ryddhau o’r carchar yn 2014 ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.
Cafodd ei achos ei gyfeirio at y Llys Apêl gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) sy’n ymchwilio i gamweinyddiad cyfiawnder posibl.
Mae gorchymyn a wnaed gan y tri barnwr ar ddechrau’r apêl yn parhau mewn grym sy’n atal adrodd manylion ynglŷn â’r ddadl gyfreithiol sy’n ymwneud a thystiolaeth newydd yn yr achos.