Anne-Marie Ellement
Mae dau filwr – un ohonynt yn Gymro – wedi cael eu canfod yn ddieuog o dreisio milwr arall gafodd ei chanfod yn farw ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Daethpwyd o hyd i gorff Anne-Marie Ellement, 30, yn crogi ym marics Bulford yn Wiltshire ar 9 Hydref 2011, bron i ddwy flynedd yn union wedi iddi honni iddi gael ei threisio gan y milwyr tra roedd hi wedi’i lleoli yn yr Almaen.

Mynnodd y ddau filwr, Thomas Fulton a Jeremy Jones, fod Anne-Marie Ellement wedi cydsynio i gael rhyw â’r ddau ohonynt ar ôl iddyn nhw i gyd fod yn yfed yn y gwersyll yn Sennelager.

Fe benderfynodd bwrdd o saith aelod o weision sifil ac uwch-swyddogion y fyddin yng Nghanolfan Llys Marsial Bulford fod y ddau yn ddieuog o’r cyhuddiad.

Ond cafodd Jeremy Jones, sydd o Sir Gaerfyrddin, a Thomas Fulton o Gaer, eu ceryddu am y ffordd “warthus” y gwnaethon nhw drin Anne-Marie Ellement wedi’r digwyddiad.

Daw’r dyfarniad yn dilyn brwydr hir gan deulu’r Corporal Ellement ar ôl i’r achos gael ei wrthod yn 2010.

Ym mis Mawrth 2014 dywedodd y crwner Nicholas Rhinberg bod yr “effeithiau seicolegol” yn dilyn y trais honedig yn ffactor yn hunanladdiad y Corporal Ellement.

Roedd ei theulu wedi galw am ail gwest i’w marwolaeth ac ymchwiliad newydd i’r honiadau o drais yn erbyn Fulton a Jones, sydd bellach wedi gadael y fyddin.