Y caban ar draeth Abersoch Llun: Countrywide
Mae caban ar draeth Abersoch wedi cael ei werthu mewn ocsiwn heddiw am £153,000 – mwy na’r pris cyfartalog ar gyfer tŷ yng Ngwynedd.
Roedd y pris cadw ar gyfer y cwt eisoes wedi cael ei godi i £91,000 yn sgil tipyn o ddiddordeb, er nad oes cyflenwad dŵr, trydan na system ddraenio iddo, a does gan berchnogion ddim hawl i aros yno dros nos.
Cafodd yr ocsiwn ei chynnal yn ardal Piccadilly yn Llundain, ac yn ôl adroddiadau bu tipyn o frwydro ffyrnig gan ddau ddyn busnes o ardal Caer yn ystod yr arwerthiant.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith fodd bynnag, mae gwerthu’r caban am bris sydd yn uwch na rhai cartrefi yn yr ardal yn tanlinellu trafferthion pobl leol wrth geisio prynu tai.
Darn o draeth
Mae’r caban gafodd ei werthu heddiw gan gwmni Countrywide yn mesur 12 troedfedd wrth naw troedfedd, ac mae darn o’r traeth hefyd wedi’i gynnwys yn y pris.
Llynedd fe gafodd caban tebyg yn Abersoch ei werthu am £100,000.
Mae’r pris terfynol o £153,000 am yr un diweddaraf yn uwch na’r pris cyfartalog ar gyfer tŷ yng Ngwynedd, sef £136,352.
Y pris cyfartalog ar gyfer tŷ yng Nghymru yw £122,573, ac mae’r cyfartaledd isaf ym Mlaenau Gwent ble mae’n £72,081.
‘Niweidio’r iaith’
Yn ôl Tamsin Davies, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, roedd arwerthiant y caban yn Abersoch yn tanlinellu un o bryderon pobol yr ardal.
“Mae’r digwyddiad yma’n symbol o broblem ddifrifol iawn. Mae prisiau tai uchel – sydd yn hollol anfforddiadwy i bobl leol – yn niweidio sefyllfa’r iaith Gymraeg,” meddai.
“Mae’r tai anfforddiadwy yn achosi i lawer o bobl ifanc adael Cymru, ac mae’r allfudiad yma’n tanseilio cymunedau sy’n siarad y Gymraeg. Mae’r nifer o dai sy’n ail gartrefi ym Mhen Llŷn yn broblem hefyd.
“Nid yw hyn yn anochel – dylai Llywodraeth nesaf Cymru gyflwyno mesurau positif er mwyn rheoleiddio prisiau tai, ynghyd â’r hawl i rentu ar bris sy’n fforddiadwy ar gyflogau lleol. Nid yw’n achos ar gyfer adeiladu mwy o dai, ond blaenoriaethu anghenion lleol.”