Harry Greaves Llun: O dudalen codi arian Go Fund Me
Mae heddlu lleol wedi dod o hyd i gorff Cymro, oedd wedi bod yn cerdded yn y mynyddoedd ym Mheriw.
Aeth Harry Greaves, oedd yn dod o ardal Y Waun ger Wrecsam, ar goll ar Ebrill 7, ddau ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 29 oed.
Roedd y gwneuthurwr celfi yn ymweld â ffrindiau yn Pisac ger Cusco.
Roedd disgwyl iddo ddychwelyd dridiau’n ddiweddarach, ond fe ddaeth yr heddlu o hyd i’w gorff ddydd Mawrth.
Teyrnged
Mewn datganiad, fe ddywedodd ei deulu ei fod yn “un o’r dynion hyfrytaf y byddech yn dymuno cyfarfod ag o”.
Diolchodd y teulu i bawb fu’n chwilio amdano, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Lucie Blackman. Roedd y teulu wedi sefydlu tudalen arbennig er mwyn codi arian ar gyfer yr ymdrech i chwilio amdano.
Wrth gadarnhau ei farwolaeth, dywedodd y Swyddfa Dramor fod eu “meddyliau gyda’i deulu” a’u bod yn rhoi cefnogaeth iddyn nhw.