Tair wythnos cyn etholiadau’r Cynulliad, mae Llafur Cymru wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr Cymreig o fod â “chynllun cyfrinachol” i droi pob ysgol yng Nghymru yn academïau.
Yn ôl Llafur, gallai’r cynllun hwn gostio hyd at £100m, ac fe allai gael effaith “ddinistriol” ar gyllidebau ysgolion.
Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i droi ysgolion Lloegr yn academïau, ond cynllun Llafur dan arweinyddiaeth Tony Blair oedd y fenter yn wreiddiol.
Er hyn, mae Llafur Cymru yn dweud y byddai symud at gyfeiriad academïau yng Nghymru yn “wastraff arian llwyr”.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wrth golwg360 fod hyn yn “rwtsh llwyr.”
Mae Llafur Cymru hefyd yn honni bod y Ceidwadwyr yn bwriadu “torri” 12% o gyllideb addysg yng Nghymru.
‘Cwricwlwm o’r radd flaenaf’
Mae’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i wario “o leiaf” £100m ar addysg yng Nghymru, ac yn dweud y byddai £200m yn ychwanegol i addysg os byddai Llafur wrth y llyw unwaith eto ar ôl 5 Mai.
Wrth siarad yn Ysgol Gymunedol Aberdâr, dywedodd Julie James o Lafur Cymru fod gan y blaid gynlluniau i greu “cwricwlwm o’r radd flaenaf” a newid y cwrs dysgu athrawon i fformat gradd Feistr.
Byddai £100m yn cael ei roi dros y pum mlynedd nesaf, meddai, tuag at y cynllun.
“Mae’r etholiad hwn yn ddewis clir rhwng Llywodraeth Lafur wedi’i harwain gan Carwyn Jones, y byddai’n buddsoddi mewn addysgu a dysgu, a Llywodraeth Dorïaidd y byddai’n gwario miliynau o bunnoedd ar ad-drefnu gwastraffus,” meddai.
“Byddai hyn yn cael effaith ddinistriol ar gyllidebau ysgolion yng Nghymru, yn cynyddu llwyth gwaith ein hathrawon a staff cefnogi ac yn peryglu’r newidiadau mawr i’r cwricwlwm sydd ar y gweill.”
Maniffesto’r Ceidwadwyr
Yn y cyfamser mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio ei maniffesto yn Wrecsam heddiw gyda’r arweinydd, Andrew RT Davies yn addo “newid go iawn i Gymru.”
Mae’r blaid wedi rhoi addewid i ddarparu £150 miliwn yn fwy o gyllid i addysg mewn ysgolion a threblu gofal plant am ddim i rieni sydd â phlant 3-4 oed.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb swyddogol gan y Ceidwadwyr Cymreig.