Llewelyn Wyn Jones a'i wraig Brenda, Llun: Bethan Jones Parry
Mae arweinydd Eisteddfod y Ffôr, ger Pwllheli wedi son am ei “sioc” wedi i un o’r cystadleuwyr syrthio’n farw ar ôl dod o’r llwyfan nos Sadwrn.

Bu farw Llewelyn Wyn Jones, 74 oed, a oedd yn byw yn Rhosfawr, y Ffôr, ar ôl  iddo ddod o’r llwyfan a chwympo’n anymwybodol wedi iddo fod yn canu yn y gystadleuaeth Cân Werin.

Roedd yn saer coed adnabyddus yn yr ardal.

“(Dydd Sadwrn) canodd y gân werin yn ysgubol, r’un fath ag arfer, a wnaeth o ‘mond cerdded o’r llwyfan ac eistedd, os wnaeth o eistedd hyd yn oed, ar sedd y tu ôl i mi a disgynnodd yn farw,” meddai Gwilym Griffith, cyfaill iddo, oedd yn arwain yr eisteddfod.

“Mi wnaeth y paradmedics eu gorau i’w adfer, ond methiant fuodd hynny.”

Teyrngedau

Dywedodd Gwilym Griffith fod ei gyfaill yn saer coed “gyda’r gorau un” ac roedd wedi gwneud sawl cadair i eisteddfodau lleol, gan gynnwys yr un yn y Ffôr eleni.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd wrth golwg360, fod Llewelyn Wyn Jones yn “ganwr gwerin gwych, yn saer coed ac yn arlunydd – yn ‘all-rowndar’ go sownd.”

Ychwanegodd fod ei farwolaeth wedi bod yn “sioc fawr” i bawb a bod yr eisteddfod wedi dod i ben yn dilyn y digwyddiad.

‘Crefftwr diwylliedig’

Yn ogystal â chadeiriau lleol, roedd Llewelyn Wyn Jones hefyd wedi creu Cadeiriau ar lefel genedlaethol, gan greu un i deulu Fron Olau, Rhoslan ger Cricieth i goffáu tad a mab adeg Eisteddfod yr Urdd Glynllifon yn 2012.

I’r ddarlledwraig Bethan Jones Parry, a gyflwynodd y Gadair, gyda’i mam, roedd y saer coed yn “gyfaill penigamp.”

“Roedd yn grefftwr diwylliedig, oedd wedi gwneud peth wmbreth i ddiwylliant ei fro a thrwy hynny ei wlad,” meddai Bethan Jones Parry, cyfaill i’r teulu.

“Roedd o hapusaf yn trin coed ac yn trin yr ardd ac mi roedd e’n ŵr, yn dad, yn daid ac yn gyfaill penigamp.”