Cheryl James
Mae arbenigwr balistig wedi dweud wrth cwest i farwolaeth milwr ifanc o Langollen ym Marics Deepcut bod amgylchiadau ei marwolaeth “yn gyson” ag anaf i’w hun.
Roedd Cheryl James yn 18 oed pan gafwyd hyd iddi gydag anaf angheuol i’w phen ar 27 Tachwedd, 1995 – un o bedwar milwr ifanc a fu farw yn y gwersyll hyfforddiant yn Surrey dros gyfnod o saith mlynedd.
Roedd ganddi anaf bwled rhwng ei llygad dde a phont ei thrwyn.
Dywedodd David Pryor, cyn-wyddonydd fforensig, wrth y cwest yn Woking, fod ganddo luniau sy’n dangos bod safle corff Cheryl James, y gwn a’i hanaf i gyd yn awgrymu ei bod wedi anafu ei hun.
“Roeddwn wedi ystyried fod y safle yn cyd-fynd â’r (theori) ei bod wedi gafael yn y gwn,” meddai.
‘Ergyd agos iawn a’i hwyneb’
“Roeddwn wedi sylwi ar fan oedd wedi duo rhwng bawd a bys blaen llaw chwith Preifat James. Yn amlwg, mae briw i’w weld ar y migwrn.”
Dywedodd ei fod yn credu bod y duo wedi cael ei achosi gan weddillion y gwn, ond nad oedd yn gallu mynd “ymhellach na hynny.”
“Gallai fod yn weddillion y gwn, neu gallai fod yn faw, neu ddwst, be bynnag, o’r safle.”
“Dwi ddim yn gallu dweud, ac yn amlwg, mewn byd delfrydol, byddai hynny wedi cael ei ddadansoddi.”
Roedd David Pryor wedi dod i’r casgliad bod Cheryl James wedi “dioddef o anaf gwn i flaen ei hwyneb” a bod yr anaf yn “dangos nodweddion sy’n cyd-fynd ag ergyd agos iawn â’i hwyneb.”
Roedd y “duo” ar wyneb Cheryl James hefyd yn dangos, meddai, ei fod yn cyd-fynd ag “anaf cyffwrdd”.
Ond cyfaddefodd y gallai’r duo fod wedi’i achosi gan “gleisiau, colur neu faw.”
Pan ofynnwyd iddo pam nad oedd y fwled wedi gadael ei chorff, dywedodd y gallai’r fwled fod wedi “torri’n ddarnau”.
‘Dim cyfle’ i archwilio’r corff
Doedd David Pryor heb gael cais i ysgrifennu adroddiad tan saith mlynedd ar ôl marwolaeth Cheryl James.
Am hynny, doedd e heb gael cyfle i archwilio’r corff, y ffotograffau digidol na’r manylion penodol yn y lluniau.
Mae’r cwest yn parhau.