Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth am ferch 14 oed sydd wedi bod ar goll ers ddydd Mawrth.

Roedd Ffion Meredith wedi bod yn byw yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar, ond daw’n wreiddiol o ardal y Pîl ger Pen-y-bont ar Ogwr, a dyna lle mae’r heddlu’n credu y mae hi fwyaf tebygol o fod.

Ers clywed ei bod ar goll, mae’r heddlu wedi bod yn chwilio amdani ac maen nhw bellach yn gofyn am help gan y cyhoedd.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am Ffion gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan nodi cyfeirnod 1600128690.