Fe fydd hyfforddwraig a beirniad sy’n adnabyddus i genedlaethau o Eisteddfodwyr yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ym mis Awst.

Cyhoeddodd yr Eisteddod mai Mair Carrington Roberts yw enillydd Medal Goffa Syr T H Parry-Williams er clod eleni.

Er ei bod yn byw ym Môn erbyn hyn, fe fu’n flaenllaw iawn yn y gogledd ddwyrain, lle y bu’n byw a gweithio am flynyddoedd, a lle y bu’n hyfforddi, dysgu a pharatoi cannoedd o blant a phobl ifanc ar gyfer pob math o gystadlaethau a pherfformiadau.

Yn gynnar yn y 1970au, aeth Mair ati i greu parti canu yn ardal Wrecsam, Parti’r Ffin a bu hefyd yn gyfrifol am sefydlu côr yng Nghapel y Groes, Wrecsam gan gynnwys nifer o blant a phobl ifanc yr ardal.

Paratoi pobl ifanc

Gyda’i diddordeb mawr ym myd cerdd dant a cherddoriaeth yn gyffredinol, mae galw mawr arni hyd heddiw i baratoi pobl ifanc ar gyfer cystadlaethau ac arholiadau, ac mae hi’n dal i dreulio oriau yn gwneud hyn ym Môn, fel y bu’n gwneud am flynyddoedd yn Wrecsam cyn hynny.

“Nid yw byth yn bychanu ymdrech unrhyw ymgeisydd, ond yn ei symbylu i symud ymlaen i berffeithio’i grefft, ac yn ddi-os, mae hyn wedi ysbrydoli nifer fawr o blant a phobl ifanc dros y blynyddoedd,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.  “Mae’i brwdfrydedd a’i chyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr T.H. Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni.”

Bu Syr T H Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Caiff y Fedal ei chyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.