Rhodri Miller, gyda'i gariad Alesha O'Connor
Yn dilyn cwest i farwolaethau pedwar o bobol mewn gwrthdrawiad ar yr A470, a ddaeth i’r casgliad bod gyrrwr ifanc wedi colli rheolaeth o’i gar, mae ei deulu wedi galw am gyflwyno mesurau newydd i’r prawf gyrru.
Dywedodd teulu Rhodri Miller, 17, fu farw yn y gwrthdrawiad ger Storey Arms, 48 awr ar ôl pasio ei brawf gyrru, y byddai cyflwyno gofynion ychwanegol i’r prawf yn “paratoi gyrwyr ifanc yn well.”
Bu farw Rhodri Miller, ei gariad Alesha O’Connor a’i ffrind Corey Price, ill tri yn 17 oed, yn y gwrthdrawiad.
Roedd Margaret Challis, 68, yn teithio yn y car arall, a oedd yn cael ei yrru gan ei chyfaill Emlyn Williams, ac yn dychwelyd adre ar ôl bod yn y theatr, pan gafodd ei lladd.
Newid y ffordd o ddysgu gyrru
Yn ôl teulu Rhodri Miller, gallai ymarferion gyrru ar briffyrdd, gyrru gyda’r nos, mewn tywydd gwael ac ymwybyddiaeth o gyflymder, oll helpu tuag at atal rhywbeth tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.
Fe wnaethon nhw alw hefyd am roi cyfyngiadau ar nifer y teithwyr mewn car y gall person sydd newydd basio eu prawf eu cludo; cyfyngu ar yr oriau gall yrru, ac ar gwmnïau yswiriant i orfodi gyrwyr sydd newydd basio eu prawf i gael blwch du yn eu ceir, sy’n cofnodi cyflymder.
“Y cyflymder, y pwysau oedd yn ei gar gyda’r teithwyr, y tywyllwch, yr adrenalin, y pwysau gan ffrindiau, ei ddiffyg profiad, roedd yr holl ffactorau hyn wedi cyfrannu at y gwrthdrawiad angheuol,” meddai ei deulu mewn datganiad.
“Dyw’r ffordd mae ein plant yn dysgu gyrru heb newid ond mae ein ffyrdd a’n hagweddau ni wedi.”
Dywedodd y teulu eu bod yn byw mewn hunllef bob dydd ers y gwrthdrawiad hwnnw ym mis Mawrth y llynedd.
“Gyrru’n rhy gyflym”
Wyth munud cyn y gwrthdrawiad roedd car Volkswagen Golf Rhodri Miller wedi cyrraedd cyflymdra o 75mya, clywodd y gwrandawiad.
Ond nid oedd unrhyw dystiolaeth, meddai’r heddlu, bod Rhodri Miller yn mynd dros y cyfyngiad cyflymder o 60mya pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ond ei fod yn “gyrru’n rhy gyflym o ystyried ei allu.”
Mae’r heddlu’n credu ei fod wedi colli rheolaeth o’i gar wrth fynd heibio cornel ac wedi gwyro i ochr anghywir y ffordd, ac nad oedd yn ceisio pasio car arall.
Fe gofnododd y crwner, Andrew Barkley, bod y pedwar wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad.