Trudy Jones o'r Coed Duon
Cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal heddiw yn Abaty Westminster ar gyfer y rhai gafodd eu lladd mewn ymosodiadau brawychol yn Tiwnisia y llynedd.

Roedd 30 o Brydeinwyr ymhlith 38 o bobl – gan gynnwys Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon – a gafodd eu saethu’n farw gan ddyn arfog, Seifeddine Rezgui, ar draeth yn Sousse ym mis Mehefin y llynedd.

Roedd y grŵp eithafol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Tri mis yn gynharach roedd brawychwyr IS wedi tanio gynnau at dwristiaid yn Amgueddfa Genedlaethol Bardo yn y brifddinas Tunis. Roedd Sally Adey, 57, o Sir Amwythig ymhlith 22 o bobl gafodd eu lladd bryd hynny.

Roedd y Prif Weinidog David Cameron a’r Tywysog Harri ymhlith 900 o bobl oedd yn bresennol yn y gwasanaeth heddiw.

Deon Westminster, y Gwir Parchedig Dr John Hall fu’n cynnal y gwasanaeth a bu teulu a ffrindiau’r rhai gafodd eu lladd yn cynnau 31 o ganhwyllau er cof am y rhai fu farw.

Daeth teuluoedd y rhai gafodd eu lladd a goroeswyr y ddau ymosodiad yn 2015, ynghyd ger cofeb ar gyfer dioddefwyr yn Llundain lle cafodd torch o flodau ei gosod.

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth y llynedd a byddai’n sefydlu cofeb barhaol i’r rhai gafodd eu lladd yn Tiwnisia yn ogystal â chreu safle coffa ar wahân ar gyfer Prydeinwyr sydd wedi’u lladd mewn ymosodiadau brawychol dramor.