Trudy Jones o'r Coed Duon
Fe fydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yn Abaty Westminster heddiw i gofio’r Prydeinwyr a gafodd eu lladd yn ymosodiadau brawychol Tiwnisia.

Fe fydd teuluoedd a gollodd eu hanwyliaid a’r rhai a oedd wedi goroesi’r ddau ymosodiad yn 2015 yn dod ynghyd i osod torch ger cofeb ar gyfer dioddefwyr yn Llundain.

Cafodd 38 o bobl – gan gynnwys Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon – eu saethu’n farw gan ddyn arfog, Seifeddine Rezgui, ar draeth yn Sousse ym mis Mehefin y llynedd.

Roedd y grŵp eithafol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Tri mis yn gynharach roedd brawychwyr IS wedi tanio gynnau at dwristiaid yn Amgueddfa Genedlaethol Bardo yn y brifddinas Tunis. Roedd Sally Adey, 57, o Sir Amwythig ymhlith 22 o bobl gafodd eu lladd bryd hynny.

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth y llynedd a byddai’n sefydlu cofeb barhaol i’r rhai gafodd eu lladd yn Tiwnisia yn ogystal â chreu safle coffa ar wahân ar gyfer Prydeinwyr sydd wedi’u lladd mewn ymosodiadau brawychol dramor.

Fe fydd y Tywysog Harry yn cynrychioli’r Frenhines yn y gwasanaeth heddiw.