Gwaith dur Port Talbot
Fe fydd dadl frys ynglŷn â’r argyfwng yn y diwydiant dur yn cael ei chynnal yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw ar ôl i’r Blaid Lafur rybuddio am gyflwr bregus y diwydiant.

Fe awgrymodd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid y gallai Llywodraeth San Steffan ystyried buddsoddi ar y cyd ym musnesau Tata yn y DU.

Mae’r Llywodraeth y barod i helpu, meddai wrth y Senedd ddydd Llun, “gan gynnwys edrych ar y posibilrwydd o fuddsoddi ar y cyd gyda phrynwr ar delerau masnachol.”

Fe fydd gan Aelodau Seneddol hyd at dair awr i drafod yr argyfwng ymhellach ar ôl i ysgrifennydd busnes yr wrthblaid Angela Eagle alw am ddadl frys.

Fe ddechreuodd y broses ffurfiol o werth busnesau Tata yn y DU ddoe, gyda’r cwmni’n dweud ei fod yn bwriadu cysylltu â  “degau” o gwmnïau yn y gobaith o achub miloedd o swyddi.

Yn ôl Koushik Chatterjee, cyfarwyddwr grŵp gweithredol Tata, bwriad y cwmni yw gwerthu’r asedau fel un yn hytrach na gwahanu’r busnes.

Daw hyn wedi i’r cwmni arwyddo cytundeb i werthu ei fusnes Long Products Europe, sy’n cynnwys y gwaith dur yn Scunthorpe, i gwmni buddsoddi Greybull Capital, gan ddiogelu 4,400 o swyddi yn y DU.

Mae’r busnes yn y DU, gan gynnwys y gwaith ym Mhort Talbot, wedi bod yn gwneud colledion o £1 miliwn y dydd, ac wedi gwneud “colledion sylweddol” dros y flwyddyn ddiwethaf.

‘Calonogol’

 

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad y gallai Llywodraeth San Steffan fuddsoddi ar y cyd yn y busnes, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod y newyddion yn “galonogol.”

Serch hynny, meddai, roedd nifer o gwestiynau i’w hateb o hyd gan Lywodraeth y DU, “yn bennaf ynglŷn â thariffau a’i pholisi ynni.”

“Fe fues i’n ymweld â gwaith dur Trostre a Llanwern heddiw i gwrdd â’r rheolwyr lleol a’r undebau llafur. Roedd yr ymweliad yn tanlinellu’r ffaith bod y rhain yn ffatrïoedd modern a chynhyrchiol gyda gweithlu arbenigol ac ymrwymedig. Fe fyddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu’r diwydiant hanfodol yma.”