Fe allai ysgol uwchradd ym Mhowys orfod ad-dalu £100,000 ar ôl iddi wario arian yn cludo 149 o ddisgyblion ar fysiau ysgol o du allan i’w thalgylch.
Mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, daeth i’r amlwg fod Ysgol Uwchradd Llanfyllin wedi gwario £500,000 ar y drafnidiaeth dros y blynyddoedd diwethaf yn hytrach nag ar adnoddau addysgol i’r myfyrwyr.
Roedd yr arian wedi mynd at dalu am fysiau i hebrwng myfyrwyr o du allan i ddalgylch yr ysgol, y tu hwnt i’r ffin yn Sir Amwythig, sydd yn erbyn polisi Cyngor Powys.
Mae’r ffrae wedi arwain at un cynghorydd ac aelod cabinet, y Cynghorydd Darren Mayor, i ymddiswyddo yn dilyn penderfyniad y Cabinet ddiwedd mis Mawrth i orfodi’r ysgol i gydymffurfio â’i pholisi.
Bydd adroddiad sy’n argymell bod yr ysgol yn ad-dalu’r arian yn mynd gerbron y cabinet ddydd Mawrth.
Gwrthwynebu’r adroddiad
Er hyn, mae cynghorwyr sydd ar fwrdd llywodraethu’r ysgol yn galw ar y cyngor i dynnu’r adroddiad yn ôl, gan ddweud na ddylai penderfyniad gael ei wneud cyn i adolygiad annibynnol gael ei gwblhau.
Yn ôl y llywodraethwyr, roedd y cyngor yn ymwybodol bod yr ysgol yn gwario’r arian ar y drafnidiaeth, ac y byddai mynnu ad-daliad yn cosbi disgyblion yr ysgol.
Dywedodd y cynghorydd Wynne Jones, sy’n ddeilydd portffolio dros gyllid y Cyngor ac awdur yr adroddiad, wrth golwg360, fod bargyfreithiwr yn cynnal adolygiad annibynnol o’r sefyllfa ar hyn o bryd ac y dylai gael ei gwblhau o fewn mis.
“Ond dydy hwnna ddim yn cyfeirio o gwbl at y ffordd ymlaen,” meddai.
“Felly mae’r adroddiad (i’r cabinet) yn mynd yn ei flaen ac fel awdur yr adroddiad dwi ddim wedi cael unrhyw un yn gofyn i mi beidio â’i gyflwyno i’r cyfarfod heddiw,” meddai.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r ysgol fynd ar system gyllid electronig y Cyngor, y dylai fod cyfarfodydd cyson fod rhwng y Cyngor a’r ysgol ac y dylai’r ysgol “wneud yn iawn” am y cyllid a gafodd ei neilltuo am y flwyddyn academaidd hon.